Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cronfa gymorth ariannol i ddysgwyr Cymraeg

Cronfa gymorth ariannol i ddysgwyr Cymraeg

Mae cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr y Gymraeg er mwyn eu cynorthwyo i ddysgu’r iaith.

Nod y gronfa, a weinyddir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw cyfrannu at gostau megis gofal plant, arholiadau, costau teithio a deunyddiau dysgu.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Rydyn ni’n falch dros ben o allu cynnig y cymorth yma i ddysgwyr ledled Cymru. Ry’n ni’n awyddus i weld mwy o bobl yn mwynhau dysgu Cymraeg.  Ein bwriad yw hwyluso’r broses i’r dysgwyr drwy sicrhau eu bod yn cael cymorth ariannol pan fo angen.”

Mae’r Ganolfan yn cydweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr i gynnal amrywiaeth o gyrsiau iaith ar draws Cymru, o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl.

I wneud cais, mae mwy o wybodaeth a ffurflen gais ar y dudalen hon neu drwy ffonio 0300 3234324.

Diwedd

1.3.17

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hawys Roberts, Prif Swyddog Cyfathrebu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru.