Dros yr haf, mi wnaeth y cerddor, Darhon Rees-Rohrbacher godi am 3.15yb er mwyn ymuno â dosbarth dysgu Cymraeg dwys o’i chartref yn Albany, prifddinas talaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.
Cwblhaodd Darhon, sy’n dod o Cleveland, Ohio yn wreiddiol, gwrs lefel Canolradd pedair wythnos o hyd gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Darhon ar fin cychwyn cwrs lefel Uwch fydd yn cael ei gynnal yn wythnosol.
Fis Ebrill 2020, penderfynodd Darhon ymddeol o’i swydd fel nyrs a chanolbwyntio ar gerddoriaeth. Mae hi nawr yn cyfansoddi, perfformio ac yn diwtor preifat o dan yr enw Dragonflower Music. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi arwain sawl Cymanfa Ganu a chafodd y drydedd wobr am ganu unawd soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y 1980au hwyr. Roedd gan Darhon reswm arbennig dros ddechrau dysgu Cymraeg, fel yr eglura;
‘‘Cymraeg oedd iaith fy hynafiaid. Roedd teulu ochr fy nhad yn falch iawn o’u hetifeddiaeth ac roedd yn aml yn destun sgwrs. Mi wnaeth un o fy hendeidiau ‘Rees Rees’ symud o Gymru a phrynu gwerth 300 acer o dir fferm wrth yml Altoona, Pennsylvania tua 1800. Mae’r iaith mor unigryw ac mae gallu deall ystyr geiriau emynau yn holl bwysig i mi.’’
Yn ogystal â chystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mi wnaeth Darhon gystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a derbyniodd grant i astudio Cymraeg a’r delyn yng Nghymru. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi mynychu cyrsiau dysgu Cymraeg yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth, ond mae hi wrth ei bodd yn dysgu Cymraeg ar-lein;
‘‘Dw i’n mwynhau dysgu ar-lein gan ei fod yn cynnig hyblygrwydd. Dw i’n hoffi defnyddio Zoom, gan mod i’n gallu gweld y dysgwyr eraill a rhyngweithio gyda nhw. Er mwyn codi am 3.15yb, roedd rhaid i mi fynd i’r gwely am 8yh. Dydy fy mhatrwm cwsg ddim wedi mynd nôl i normal eto, ond roedd e werth e!’’
Mae Darhon yn edrych ymlaen at fynychu ei dosbarth wythnosol newydd, sydd ar amser call o’r dydd yn America;
‘‘Mae cysondeb yn gwbl allweddol, felly wrth fynychu’r dosbarth wythnosol, dw i’n gobeithio y bydda i gam yn nes at fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg.’’