Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cwrs canol nos yn taro’r nodyn cywir yn America

Cwrs canol nos yn taro’r nodyn cywir yn America

Dros yr haf, mi wnaeth y cerddor, Darhon Rees-Rohrbacher godi am 3.15yb er mwyn ymuno â dosbarth dysgu Cymraeg dwys o’i chartref yn Albany, prifddinas talaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.

Cwblhaodd Darhon, sy’n dod o Cleveland, Ohio yn wreiddiol, gwrs lefel Canolradd pedair wythnos o hyd gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae Darhon ar fin cychwyn cwrs lefel Uwch fydd yn cael ei gynnal yn wythnosol.

Fis Ebrill 2020, penderfynodd Darhon ymddeol o’i swydd fel nyrs a chanolbwyntio ar gerddoriaeth.  Mae hi nawr yn cyfansoddi, perfformio ac yn diwtor preifat o dan yr enw Dragonflower Music.  Dros y blynyddoedd, mae hi wedi arwain sawl Cymanfa Ganu a chafodd y drydedd wobr am ganu unawd soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y 1980au hwyr.  Roedd gan Darhon reswm arbennig dros ddechrau dysgu Cymraeg, fel yr eglura;

‘‘Cymraeg oedd iaith fy hynafiaid.  Roedd teulu ochr fy nhad yn falch iawn o’u hetifeddiaeth ac roedd yn aml yn destun sgwrs.  Mi wnaeth un o fy hendeidiau ‘Rees Rees’ symud o Gymru a phrynu gwerth 300 acer o dir fferm wrth yml Altoona, Pennsylvania tua 1800.  Mae’r iaith mor unigryw ac mae gallu deall ystyr geiriau emynau yn holl bwysig i mi.’’

Yn ogystal â chystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mi wnaeth Darhon gystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a derbyniodd grant i astudio Cymraeg a’r delyn yng Nghymru.  Dros y blynyddoedd, mae hi wedi mynychu cyrsiau dysgu Cymraeg yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth, ond mae hi wrth ei bodd yn dysgu Cymraeg ar-lein;

‘‘Dw i’n mwynhau dysgu ar-lein gan ei fod yn cynnig hyblygrwydd.  Dw i’n hoffi defnyddio Zoom, gan mod i’n gallu gweld y dysgwyr eraill a rhyngweithio gyda nhw.  Er mwyn codi am 3.15yb, roedd rhaid i mi fynd i’r gwely am 8yh.  Dydy fy mhatrwm cwsg ddim wedi mynd nôl i normal eto, ond roedd e werth e!’’

Mae Darhon yn edrych ymlaen at fynychu ei dosbarth wythnosol newydd, sydd ar amser call o’r dydd yn America;

‘‘Mae cysondeb yn gwbl allweddol, felly wrth fynychu’r dosbarth wythnosol, dw i’n gobeithio y bydda i gam yn nes at fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg.’’