A hithau yn wreiddiol o Dunstable yn Bedfordshire, dechreuodd Megan Hutchinson ddysgu Cymraeg ar ddechrau’r cyfnod clo er mwyn gallu siarad Cymraeg gyda chleifion.
Symudodd Megan i Gymru ddwy flynedd yn ôl i weithio yn Ysbyty Brenhinol Gwent i ddechrau, yna Ysbyty’r Tywysog Siarl yn Merthyr. Doedd hi ddim yn ymwybodol fod y Gymraeg yn iaith fyw nes symud i Gymru a chlywed meddyg yn sôn am gwrs Cymraeg oedd hi wedi bod arno.
Dywedodd Megan, “Ro’n ni’n trafod syniadau o beth allen ni ei wneud yn ystod y cyfnod clo a dyma un meddyg yn dweud ei bod hi wedi gwneud cwrs gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol y flwyddyn flaenorol a bod ‘na fargen i’w chael o archebu lle yn gynnar.
“Felly gwnes i gofrestru i ddechrau dysgu a dw i wedi cwympo mewn cariad gyda’r iaith.”
Mae Megan wedi bod yn gweithio mewn amryw o adrannau o fewn yr ysbytai er mwyn cymhwyso yn llawn fel meddyg ac mae’n cofio un tro pan oedd hi’n ddefnyddiol iawn ei bod yn dysgu Cymraeg.
Dywedodd, “Dw i’n cofio hen wraig yn dod i’r ysbyty, pan oeddwn i ond wedi dechrau dysgu Cymraeg ers tua dwy neu dair wythnos. Roedd hi’n ymddangos yn gymysglyd iawn. Ond, roedd yn anodd dweud os taw rhwystr iaith oedd yna neu ei bod hi wir yn gymysglyd.
“Felly gwnes i ofyn i nyrs oedd wedi bod mewn ysgol Gymraeg ond wedi colli hyder i’w siarad, i ddod at yr hen wraig gyda fi. A rhwng y ddwy ohonon ni, gwnaethon ni lwyddo i siarad digon o Gymraeg i’w hasesu.
“Mewn sefyllfaoedd fel hyn, mae siarad iaith gyntaf yn hynod bwysig. Pan o’n i’n gweithio yn Llundain, roedden ni’n ymwybodol iawn fod lleiafrifoedd ethnig yn troi i’w hiaith gynhenid pan yn wael, ac ro’n ni’n cael cyfieithwyr i mewn i’r ysbyty i siarad gyda nhw.
“Mae’n fy ngwneud yn drist nad yw’r un peth yn digwydd gyda’r Gymraeg. Y disgwyl ydy fod siaradwyr Cymraeg yn deall Saesneg ac nad oes angen cyfieithydd.”
Mae Megan yn gwisgo cortyn gwddf dysgwr Iaith Gwaith (y swigen oren) yn y gwaith, ac mae’n synnu cymaint o staff sy’n gallu siarad Cymraeg yno. “Mae’n fendigedig yn yr ysbyty – mae llawer o bobl yn gallu siarad Cymraeg, ond yn anffodus, does neb yn gwybod hynny! Ond achos fy mod i’n gwisgo cortyn gwddf, ac yn ceisio cyfarch pobl yn Gymraeg, yn sydyn mae llawer o staff yn ateb yn Gymraeg. Staff nad o’n i’n gwybod eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae’n wych.
“Pan mae un person yn dechrau sgwrs yn Gymraeg, yn sydyn mae llawer o bobl yn ymuno, gan gynnwys cleifion.”
Mae Megan bellach yn gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg ger Hwlffordd, ac yn gobeithio y caiff ymarfer dipyn o’i Chymraeg yno. Mae hefyd yn mynd i fod yn dilyn cwrs Cymraeg pellach, ac mae’n edrych ymlaen at ddysgu mwy o dermau meddygol Cymraeg trwy’r cwrs hwnnw.
Meddai Megan, “Dw i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg ac roedd fy nhiwtor yn Dysgu Cymraeg Morgannwg, un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Kathy Jones, yn wych. Mater o ddangos parch oedd dysgu’r iaith i fi. Baswn i wedi gwneud yr un peth taswn i wedi mynd i unrhyw wlad arall yn Ewrop.
“Dw i’n gobeithio rhyw ddiwrnod y bydda i’n ddigon rhugl i gael sgwrs dda gyda chleifion yn y Gymraeg. Mae’r diwrnod wastad yn un gwell os ydw i wedi cael siarad Cymraeg.”