Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyfreithwraig o Lima’n dysgu Cymraeg

Cyfreithwraig o Lima’n dysgu Cymraeg
Grace Aguilar

Mae cyfreithwraig o Lima, Periw wedi rhoi ei bryd ar ddysgu Cymraeg ers iddi glywed yr actor Matthew Rhys yn siarad Cymraeg, a gwylio’r gyfres deledu The Crown.

Cyn 2019, roedd Grace Aguilar yn gyfarwydd ag actorion Cymreig fel Syr Anthony Hopkins a Michael Sheen, ond doedd hi ddim yn gwybod am fodolaeth yr iaith Gymraeg, tan iddi glywed Matthew Rhys yn siarad Cymraeg mewn fideo gafodd ei gyhoeddi ar sianel YouTube BAFTA Guru.

Heddiw, mae Grace yn dilyn cwrs rhithiol lefel Mynediad i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Er gwaetha’r gwahaniaeth amser, mae’r dosbarth yn gweddu i’r dim, fel yr eglura;

‘‘Oherwydd y gwahaniaeth o bum awr, dw i’n gorfod codi’n gynnar er mwyn mynychu’r dosbarth, ond mae werth yr ymdrech!  Dw i’n mawr obeithio y bydd y gwersi ar Zoom yn parhau, gan eu bod yn rhoi cyfle i ddysgwyr fel fi sy’n byw mewn rhan arall o’r byd i ddysgu Cymraeg.’’

Mae Grace yn trio siarad cymaint o Gymraeg ag y medr y tu allan i’r dosbarth rhithiol, a hoffai ymweld â Chymru rhyw ddydd er mwyn ymarfer ei sgiliau;

‘‘Mae gweld delweddau prydferth o Gymru fel sydd yn The Crown wedi codi awydd arnaf i ymweld â Chymru, pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.  Dw i’n edrych ymlaen at gael ymarfer yr hyn dw i wedi ei ddysgu a chyfarfod dysgwyr eraill dw i wedi sgwrsio gyda nhw ar-lein.’’

Erbyn diwedd ei chwrs Dysgu Cymraeg, hoffai Grace pe bai ganddi’r gallu i ddeall cerddoriaeth Gymraeg a rhaglenni teledu yn iawn.  Mae’n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn rheolaidd ac yn gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C Clic.  Mae hefyd yn mynychu sesiwn Sadwrn Siarad misol gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe er mwyn ymarfer ei Chymraeg.

Mae Grace eisoes yn rhugl mewn Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg ond mae’n mwynhau dysgu rhywbeth newydd yn Gymraeg bob wythnos.  Hoffai Grace annog unrhyw un sy’n dymuno rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg i fynd amdani;

‘‘Mae dysgu’n broses barhaus, felly beth bynnag yw eich oedran, mae bob amser yn bosib dysgu.  Fy nghyngor i yw i ymarfer cymaint ag y gallwch ym mha bynnag ffordd y gallwch, ond yn bwysicach oll, i ddal ati!’’