Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cystadleuaeth ysgrifennu stori Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg 2022

Amdani

Croeso i gystadleuaeth ysgrifennu stori Amdani 

Hoffi darllen?  Hoffi ysgrifennu? 

Beth am roi cynnig ar ein cystadleuaeth ysgrifennu stori?

Rhaid iddi fod yn stori wreiddiol, newydd. Mae croeso mawr i ddysgwyr o bob lefel dysgu gystadlu.

Bydd y storïau yn cael eu beirniadu gan ddau awdur Cymraeg, a bydd enillydd ym mhob categori.  

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 31 Ionawr 2022.  Byddwn yn cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth yn ystod wythnos yr Ŵyl Ddarllen, 28 Chwefror – 4 Mawrth 2022.

Dysgwyr Mynediad   – Ysgrifennwch stori hyd at 100 gair ar thema ‘Y Llyfr’.
Dysgwyr Sylfaen      – Ysgrifennwch stori hyd at 200 gair ar thema ‘Y Llyfr’.
Dysgwyr Canolradd  – Ysgrifennwch stori hyd at 300 gair ar thema ‘Y Llyfr’.
Dysgwyr Uwch         – Ysgrifennwch stori hyd at 400 gair ar thema ‘Y Llyfr’.

Darllenwch Delerau ac Amodau'r gystadleuaeth yma.  

I gystadlu, llenwch y ffurflen isod.

Ewch amdani a phob lwc!

Mae'r gystadleuaeth yma'n cael ei chynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mewn partneriaeth â'r Eisteddfod Genedlaethol.
















Gweler y Telerau ac Amodau uchod

Cliciwch ar y botwm isod i weld ein hysbys