Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dathlu’r deugain - annog dysgwyr i fynd amdani yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023

Dathlu’r deugain - annog dysgwyr i fynd amdani  yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023

Mae dysgwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt yn cael eu hannog i roi tro ar gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, 40 mlynedd ar ôl i’r wobr gyntaf i ddysgwyr gael ei chyflwyno.

Shirley Flower o Glwyd oedd enillydd y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn gyntaf un, a gynhaliwyd yn  Eisteddfod Genedlaethol Llangefni ym 1983.  Ers hynny, mae’r gystadleuaeth wedi’i chynnal 36 o weithiau, gyda sawl enw cyfarwydd ymhlith yr enillwyr.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.  Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun.  Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.

Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst gyda’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent. 

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ddydd Mercher, 9 Awst.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Mae dathlu cyfraniad siaradwyr Cymraeg newydd yn hollbwysig i’r Eisteddfod ac mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn un o uchafbwyntiau’r brifwyl.  Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith fod y gystadleuaeth yn dathlu’r deugain, ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael dod i adnabod y cystadleuwyr eleni.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn ffordd wych o ddathlu llwyddiannau unigolion ysbrydoledig ac o dynnu sylw at y cyfleoedd di-ri i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.  Mae safon y gystadleuaeth yn uchel bob blwyddyn, ac mae’n un o uchafbwyntiau’r calendr Dysgu Cymraeg.  Pob lwc eleni i’r holl gystadleuwyr!”

Bydd yr enillydd yn mwynhau blwyddyn brysur o genhadu dros y sector Dysgu Cymraeg, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau rhithiol a wyneb-yn-wyneb.

Joe Healy, o Wimbledon, Llundain, oedd enillydd y wobr yn 2022.  Erbyn hyn mae Joe wedi dechrau gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg llawn amser yn y brifddinas, gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.  Mae’n dysgu dosbarthiadau o bobl ifanc ac yn cynnal gwersi yn Oasis, Caerdydd, canolfan sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Meddai Joe:  “Roedd ennill Dysgwr y Flwyddyn yn fraint enfawr, ac yn brofiad emosiynol hefyd.  Mae wedi agor drysau o ran fy ngyrfa, ac wedi fy ngalluogi i siarad gyda dysgwyr eraill am fy siwrnai iaith.  Mae wedi bod yn gyfnod prysur dros ben ers ennill y wobr, ond baswn i’n annog dysgwyr i fynd amdani – pob lwc i bawb!”