Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Digon o gyfle i ‘Siarad’ ar-lein wrth ail-lansio’r cynllun Siarad.

Digon o gyfle i ‘Siarad’ ar-lein wrth ail-lansio’r cynllun Siarad.
Llun Siarad

Bydd cynllun sy’n paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr yn cael ei ail-lansio ar 15 Hydref, Diwrnod Shwmae/Su’mae, ac yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru.

Nod y cynllun gwirfoddol, o’r enw ‘Siarad’, yw codi hyder dysgwyr trwy roi cyfle iddynt ymarfer sgwrsio yn anffurfiol gyda siaradwyr rhugl.  Mae’r cynllun, a gyflwynwyd yn wreiddiol yn 2018, hefyd yn cyflwyno dysgwyr i gyfleoedd i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn eu hardaloedd. 

Gyda chyfyngiadau’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn lleihau’r cyfleoedd i gwrdd wyneb yn wyneb, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n gyfrifol am y cynllun, yn awyddus i annog parau i gwrdd yn rhithiol ac i recriwtio mwy i gymryd rhan.

Eglura Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan:

“Yn syml iawn, sgwrsio sy wrth galon y cynllun yma, sy’n golygu ein bod ni’n gallu defnyddio sawl cyfrwng, boed yn ffôn, Facetime, Whatsapp, Skype neu Zoom, i’w gynnal.  Mae’r sefyllfa diweddar wedi trawsnewid y sector Dysgu Cymraeg, gyda’n gwersi yn digwydd mewn dosbarthiadau rhithiol a llu o weithgareddau anffurfiol fel cwisiau a boreau coffi hefyd yn cael eu cynnal ar-lein.  Dyma gyfle i ymestyn y cynllun Siarad, hefyd, i’r byd rhithiol, gan ddenu dysgwyr a siaradwyr o bob man i fod yn rhan ohono.”

Mae’r cynllun yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau ar lefel Canolradd neu uwch ac mae disgwyl i barau gwrdd am 10 awr o sgwrsio anffurfiol yn ystod y cynllun. 

Mae Lyn Llewellyn yn siaradwr Cymraeg o Gaerffili sy wedi cymryd rhan yn y cynllun.

Meddai, “Dechreuais i gymryd rhan yn y cynllun ddwy flynedd yn ôl ac erbyn hyn mae fy mhartner ‘Siarad’ a finnau yn ffrindiau da.  ’Dyn ni’n cyfarfod bob wythnos mewn bore coffi rhithiol, a dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau eraill hefyd. Mae’n dda medru ymarfer siarad y Gymraeg a chael hwyl gyda’n gilydd.”

Mae Colin Williams, sy’n dysgu Cymraeg ac sy’n dod o Gaerdydd, hefyd yn teimlo byd y cynllun wedi helpu codi ei hyder i siarad yr iaith.  Meddai, “Fe wnaeth y cynllun fyd o wahaniaeth i fy hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Ces i gyfle i siarad gyda rhywun mewn ffordd anffurfiol a doedd dim rhaid i fi boeni am dreigladau nac am ramadeg! Wrth siarad gyda Siôn, fy mhartner ‘Siarad’, dw i’n gallu ymlacio a siarad am bopeth heb orfod poeni os yw e’n fy neall.”

Os oes dysgwr neu siaradwr Cymraeg yn awyddus i gymryd rhan yn y cynllun, gallwch gael mwy o wybodaeth a chofrestru yma.