Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dionne yn dysgu Cymraeg

Dionne yn dysgu Cymraeg
Dionne Bennett

Mae'r gantores Dionne Bennett wedi dechrau dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol gyda Dysgu Cymraeg Gwent.  Bydd Dionne yn 'flogio' am ei phrofiadau.  Dyma ychydig o'i hanes...

Beth yw dy gefndir?

Dionne Bennett dw i a dw i’n gantores aml-genre sy’n arbenigo mewn ffurfiau cerddorol diwylliant Afro.  Dechreuais i fy ngyrfa yn y byd theatr gerdd, gyda’r sioe ‘The Official Blues Brothers’ a deithiodd ledled Ewrop am 18 mis.  Ers hynny, dw i wedi gweithio gyda sawl cynhyrchydd ac awdur caneuon ac wedi cyhoeddi llawer o draciau sy wedi cael llwyddiant beirniadol a masnachol.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Mae dysgu Cymraeg yn bwysig i fi.  Fel cantores ac awdur caneuon ddu sy’n dod o Gymru, dw i eisiau gallu canu ac ysgrifennu yn Gymraeg. Hoffwn i chwalu rhwystrau a stereoteipiau o fod yn fenyw ddu Gymreig.  Baswn i hefyd wrth fy modd yn gallu chwarae a chynhyrchu cerddoriaeth o darddiad du yn amlieithog, yn ogystal â chynyddu fy nghyfleoedd gwaith a fy ngwybodaeth a fy nealltwriaeth o ddiwylliant traddodiadol a ffurfiau cerddorol Cymru.

Sut brofiad yw dysgu mewn ‘dosbarth rhithiol’?

Dw i’n mwynhau’r profiad o ddysgu mewn dosbarth rhithiol yn fawr.  Mae’n awyrgylch hwyliog, heb bwysau, ac mae’n ffordd gyfleus o ddysgu.  Dych chi’n teimlo’n fwy hyderus yn eich cartref ei hun i gymryd rhan yn y gweithgareddau grŵp.  Dych chi hefyd yn teimlo’n llai hunan-ymwybodol am wneud camgymeriadau ac ateb cwestiynau.

Beth dych chi’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?

Hyd yma, dw i’n mwynhau dysgu sut i ynganu’n gywir.  Dw i’n byw yng Nghymru ac mae nifer o ffrindiau agos gyda fi sy’n siaradwyr Cymraeg ac felly dw i’n gyfarwydd â’r iaith yn cael ei defnyddio, ond dw i bob amser wedi cael anhawster gyda’r acen.

Wyt ti’n cael cyfle i ddefnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Yn ffodus i fi, mae nifer o ffrindiau gyda fi sy’n siaradwyr iaith gyntaf ac felly dw i’n cael ymarfer go iawn a chyfle i ddefnyddio beth dw i’n ei ddysgu bob dydd.  Mae hyn yn gymorth mawr achos dw i’n gwybod bod pobl yn dweud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol yn y de a’r gogledd.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

Fy hoff air Cymraeg ar y funud yw ‘smwddio’ (to iron clothes).  Mae’n air gwych! 

Wyt ti’n gwrando ar fandiau Cymraeg?

Ydw.  Dw i wrth fy modd gyda cherddoriaeth Gymraeg.  Ro’n i’n arfer rhedeg côr hip hop a cappella Cymreig o’r enw ‘Hard Côr’ ar ran Canolfan Mileniwm Cymru, oedd yn asio caneuon gwerin Cymraeg traddodiadol gyda rhythmau beatbox/hip hop.  Dw i hefyd wedi chwarae gyda’r Super Furries, Y Peth ac aelodau Catatonia. 

Beth yw dy gyngor i bobl eraill sy’n dysgu Cymraeg?

Byddwch yn chi eich hun a gofynnwch am ymadroddion a chwestiynau sy’n berthnasol i chi. I gysylltu’r iaith gyda’ch bywyd bob dydd – mae’n dod yn haws ac mae’n ffordd fwy dymunol o ddechrau defnyddio ‘Cymraeg y dosbarth’ yn fwy naturiol.

Rwyt ti’n gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar brosiect cerddoriaeth newydd – wyt ti’n gallu sôn amdano?

Mae’r prosiect yn ffordd wych o ddangos y cefndiroedd gwahanol sy’n rhan o’r Gymru fodern.  Bydd yn tynnu sylw at, ac yn dathlu, amrywiaeth, a, gobeithio, yn creu llwybrau cynaliadwy a mwy o waith i artistiaid duon yn y dyfodol i ddefnyddio’r Gymraeg i arddangos eu ffurfiau celf ac i deimlo eu bod nhw’n cael eu cynnwys.

Disgrifia dy hun mewn tri gair:

Eofn, hapus, penderfynol!!!