Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dwy ddysgwraig o dramor yn galw Caerffili’n gartref

Dwy ddysgwraig o dramor yn galw Caerffili’n gartref

Mae dwy ferch sy wedi’u geni filoedd o filltiroedd ar wahân, erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol gynradd Gymraeg, ac i’w dosbarth Cymraeg y mae’r diolch am hynny.

Mae Edina Potts-Klement o Hwngari a Lin Dodd o China bellach yn galw Caerffili’n gartref, ac yn ddiweddar cafodd y ddwy eu penodi i swyddi yn Ysgol Gymraeg Caerffili.

Mi wnaeth Edina a Lin symud i Gaerffili wedi iddynt gyfarfod eu partneriaid, sy’n dod o Gymru, dramor.  Mi wnaeth Lin gyfarfod ei gŵr, Martin yn Iwerddon, ac yn Hwngari y gwnaeth Edina gyfarfod ei gŵr, Neil.  Roedd y ddwy’n awyddus i anfon eu plant i ysgol gynradd Gymraeg a phenderfynodd y ddwy ddysgu Cymraeg, fel yr eglura Edina;

‘‘Ganwyd ein pedwar plentyn yng Nghymru, ac ro’n i eisiau iddynt gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dw i wrth fy modd gydag ieithoedd, a dw i’n siarad Hwngareg, Almaeneg a Saesneg, felly roedd dysgu Cymraeg er mwyn cefnogi’r plant yn benderfyniad hawdd.’’

Mae Edina a Lin yn dilyn cwrs lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei gynnal gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Maen nhw o’r farn bod eu swyddi yn yr ysgol wedi gwella eu sgiliau Cymraeg, fel y mae Lin yn sôn;

‘‘Mae gen i fwy o hyder i siarad Cymraeg ers i mi ddechrau gweithio yn yr ysgol. Dw i’n gallu parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg gartref gyda fy merch sy’n derbyn ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cefais fy synnu pan gynigiodd Mr. Griffiths, y Pennaeth, y swydd i mi ac ro’n i wrth fy modd achos ro’n i wastad eisiau gweithio yn yr ysgol. Dw i wedi cael cefnogaeth anhygoel gan fy nhiwtoriaid sef Karen Riste a Holly Hollyman drwy gydol fy nhaith yn dysgu Cymraeg.’’

Penderfynodd Lin gymryd ei llw yn Gymraeg yn ystod ei seremoni dinasyddiaeth yn Ystrad Mynach yn 2021, ac roedd ei thiwtor, Helen Hollyman, yn bresennol yn y seremoni;

‘‘Ro’n i’n lwcus i fod yn y seremoni ac ro’n i’n falch iawn o Lin. Mae dysgu Lin dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn bleser pur, ac mae’n wych gweld pa mor bell mae wedi dod. Mae Edina wedi gwneud cynnydd anhygoel ers i mi ei chyfarfod gyntaf ddwy flynedd yn ôl. Mae’n gydwybodol, brwdfrydig ac yn amlwg mae ganddi ddawn gyda ieithoedd. Dw i wrth fy modd eu bod yn gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, a dw i’n siŵr eu bod yn gaffaeliad mawr i Ysgol Gymraeg Caerffili.’’

Ychwanegodd Mr Lynn Griffiths, Pennaeth Ysgol Gymraeg Caerffili;

‘‘Iaith gyntaf Edina ydy Hwngareg a Mandarin ydy iaith gyntaf Lin, felly mae cael aelodau o staff sy’n amlieithog yn gweithio yn ein hysgol yn fodd o hyrwyddo pwysigrwydd dysgu ieithoedd newydd. Mae Edina a Lin yn arwyr ieithyddol i bawb yn ein hysgol, ac mae’r clwb Mandarin y mae Lin yn gyfrifol amdano wedi profi’n llwyddiant mawr gyda disgyblion a rhieni fel ei gilydd. ’Dyn ni’n hynod falch o’r hyn y maent wedi ei gyflawni ac mae’r ddwy yn uchel iawn eu parch yn yr ysgol.’’