Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgu Cymraeg er mwyn cael sgwrsio yn y gymuned

Dysgu Cymraeg er mwyn cael sgwrsio yn y gymuned

Pan benderfynodd teulu Bethan Howells symud i fyw i Gymru ar ôl 10 mlynedd yn Kuala Lumpur, Malaysia, roedd Bethan yn awyddus iawn i ddysgu Cymraeg.

Gyda’i mam yn wreiddiol o Ynys Môn, roedd Bethan yn gyfarwydd gydag ambell air megis ‘paned’ a ‘teisen’ ond doedd hi ddim wedi clywed sgwrs Gymraeg cyn i’w theulu symud i Lanfairpwll yn 2013.

Dair mlynedd yn ddiweddarach yn 2016 ar ôl iddi orffen ei gradd ‘Hanes gydag Astudiaethau Tsieinëeg’ ym Mhrifysgol Nottingham, cychwynnodd ddysgu Cymraeg.

Meddai Bethan, “Mi wnes i ddechau fy nhaith yn dysgu Cymraeg gydag ap SaySomethinginWelsh, oedd yn dda iawn ar gyfer ymarfer siarad Cymraeg.  Wedyn pan ddaeth y cyfnod clo, a minnau yn byw efo mam yn Llanfairpwll, mi oeddwn yn gweld fod gen i amser i wneud dosbarthiadau.

“Mae mam yn dysgu Cymraeg hefyd, ac mae hi’n siarad yn dda iawn erbyn hyn.  Mae hi’n neis iawn cael siarad Cymraeg efo hi. Dw i a fy mam yn licio dysgu ieithoedd yn gyffredinol. Mae hi yn siarad Rwsieg, Almaeneg a Ffrangeg hefyd.”

Mae Bethan yn cael gwersi Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Ychwanegodd Bethan, “Y peth gorau i mi am ddysgu Cymraeg ydy cael sgwrs efo pobl ar y stryd neu mewn siopau – gallu siarad Cymraeg yn y gymuned.  Mi oeddwn i hefyd yn gweithio mewn caffi dros y cyfnod clo a phawb yno yn siarad Cymraeg. Felly ges i lawer o gyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg tra’n byw yn Llanfairpwll.”

Mae Bethan bellach wedi cychwyn gweithio mewn swydd newydd gyda’r Gwasanaeth Sifil yn Llundain, ac wedi symud yno i fyw.  Meddai, “Dw i’n byw yn Llundain erbyn hyn a ddim yn cael llawer o gyfle i siarad Cymraeg ond mi ydw i yn bwriadu teithio nôl i Gymru yn aml i weld fy nheulu a chael siarad Cymraeg.

Ychwanegodd Bethan, “Mi fyddwn i yn argymell i unrhyw un sy’n meddwl dysgu Cymraeg i fynd amdani. Mae dysgu Cymraeg yn bwysig iawn i mi a dw i’n cael lot o hwyl!”

 Ym mis Medi 2022, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed.  Am fwy o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i dysgucymraeg.cymru neu cliciwch yma.