Mae nyrs gofal dwys o’r farn fod dysgu Cymraeg yn ystod COVID-19 wedi bod yn ffordd arbennig o dynnu ei sylw oddi ar y pandemig, ar ôl gweithio trwy gyfnod y mae hi’n ei ddisgrifio fel un hynod flinedig yn gorfforol, yn feddyliol ac emosiynol.
Dechreuodd Rachel Williams, sy’n byw yng Nghastell Nedd gyda’i gŵr a dau fab, ddysgu Cymraeg fis Medi, ac mae eisoes yn teimlo’n ddigon hyderus i siarad Cymraeg gyda’i chleifion a chydweithwyr yn Ysbyty Treforys, fel yr eglura;
‘‘Roedd gofalu am gleifion Cymraeg eu hiaith yn gallu bod yn rhwystredig gan nad oeddwn yn gallu cyfathrebu gyda nhw. Nawr, dw i’n gallu ymarfer fy Nghymraeg yn y gwaith a fy mwriad yw cyfoethogi profiad y cleifion hynny yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty. Mae’r siaradwyr Cymraeg bob amser yn gwerthfawrogi mod i’n ymdrechu i siarad yr iaith, a dw i’n esbonio mai dechreuwraig ydw i.’’
Mae Rachel yn mynychu dosbarth lefel Mynediad i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, gaiff ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ers dechrau’r pandemig, mae cyrsiau Cymraeg wedi cael eu cynnal ar-lein ac mae dysgu drwy Zoom wedi siwtio Rachel i’r dim. Dywed ei bod yn edrych ymlaen at ei dosbarth ar ôl gwaith bob nos Lun;
‘‘Dw i’n gwneud paned o de i mi fy hun, defnyddio Zoom ac yna’n mwynhau fy nosbarth dysgu Cymraeg. Mae’r dosbarth yn hamddenol, ymlaciol a ’dyn ni bob amser yn chwerthin gyda’n gilydd. Mae’r tiwtor a’r dysgwyr eraill yn gyfeillgar iawn, ac mae wedi fy ngalluogi i roi fy meddwl ar rywbeth arall yn ystod cyfnod cymharol anodd.’’
Meddai tiwtor Ann, Catherine Davies-Woodrow;
‘‘Pob clod i Rachel am ymuno â’r dosbarth ar ôl gweithio mor galed yn ystod y dydd. Mae’n amlwg eisiau rhoi cyfle i’w chleifion gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf. Mae Rachel wedi dangos agwedd mor gadarnhaol tuag at y Gymraeg mewn cyfnod sydd wedi bod mor heriol a blinedig.’’
Mae Rachel o’r farn bod ei dealltwriaeth o’r Gymraeg wedi cynyddu’n arw ers mis Medi ac mae’n ymarfer ei sgiliau adref gyda’i gŵr, Dean, sydd hefyd yn dysgu;
‘‘Mae Dean a finnau yn trio defnyddio cymaint o Gymraeg ag y gallwn yn y cartref. Megis dechrau ’dyn ni ar hyn o bryd, ond ’dyn ni’n trio defnyddio’r iaith bob cyfle posib. Ein bwriad yw parhau i fynychu’r dosbarthiadau, defnyddio apiau Cymraeg, gwrando ar y radio a gwylio’r teledu er mwyn gallu sgwrsio’n gwbl hyderus yn yr iaith. Hoffwn annog eraill sy’n dysgu i ymarfer y Gymraeg, boed hynny’n hanner awr neu ddwy awr ar y tro, ac mi ddaw gydag amser, heb os nac oni bai!’’