Mae Kayode Aseweje yn dweud bod dysgu Cymraeg yn ffordd iddo ddod i adnabod Cymru’n well.
Cafodd Kayode ei eni a’i fagu yn Nigeria, a daeth i Gymru i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru yn 2019.
Dechreuodd ei daith iaith ar Duolingo yn 2021, ond daeth cyfle iddo ddilyn cwrs Dysgu Cymraeg trwy ei waith yn 2023.
Mae Kayode yn gweithio fel paragyfreithiwr i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ac mae’n dilyn cwrs Mynediad 2 ar hyn o bryd drwy gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Cymraeg Gwaith yn gynllun sy’n cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae’r cynllun yn cynnig hyfforddiant amrywiol, hyblyg, sydd wedi ei ariannu’n llwyr i gyflogwyr.
Meddai Kayode: “Cyn dod yma i astudio, do’n i ddim yn gwybod llawer am yr iaith, nac am Gymru fel gwlad. Am fy mod i’n byw yng Nghymru, ro’n i’n awyddus i ddysgu mwy am yr iaith.”
“Dw i’n mwynhau dysgu am bethau newydd, am hanes a diwylliant, ac mae dysgu’r iaith yn ffordd i fi ddod i ’nabod Cymru’n well.”
Mae ieithoedd o ddiddordeb i Kayode, ac mae’n gallu siarad Ffrangeg, Saesneg, Yoruba, Creoliaith Nigeriaidd a thipyn bach o Hawsa. Mae’n credu bod iaith yn rhan o ddiwylliant ac mae’n dweud mai’r peth gorau am ddysgu Cymraeg yw ei fod yn ei helpu i gael dealltwriaeth well o Gymru.
“Dw i wedi bod yn mwynhau dysgu am y Mabinogion, am ganeuon, a darganfod pethau newydd. Dw i wedi dysgu am yr anthem genedlaethol, ac wedi ymweld â chofeb Evan a James James ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.”
Mae Kayode’n byw ym Mhontypridd, a gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar garreg ei ddrws ym mis Awst 2024, roedd wedi mwynhau ymweld â’r ŵyl. Roedd yn gwirfoddoli ym Maes D yn gweini te a choffi i ymwelwyr, a chafodd gyfle i grwydro’r maes, gwrando ar sgyrsiau a gwylio ffilmiau.
Y tu allan i’r gwaith, mae Kayode’n disgrifio’i hun fel person creadigol, sy’n mwynhau actio a chanu. Mae wedi cymryd rhan mewn sioeau yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ac mae’n canu’n aml yn yr eglwys.
Ei gyngor i unrhyw un sy eisiau dysgu Cymraeg yw mynd amdani a bod â meddwl agored. Meddai, “Mae symud i wlad arall a dysgu iaith newydd yn gallu teimlo’n anodd, ond, mae’n ffordd o ddysgu mwy am y diwylliant. Os yw’r cynnig i ddysgu Cymraeg yn codi, achubwch ar y cyfle ac ewch amdani.”
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae’n wych i glywed am daith iaith Kayode, a’r profiadau gwerthfawr mae’n eu cael wrth ddysgu’r Gymraeg.
“Mae 2,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn ein cynllun Cymraeg Gwaith hyd yma, gan greu cyfleoedd newydd i bobl fwynhau dysgu a siarad y Gymraeg.”
Dymuniad Kayode ar gyfer y dyfodol yw parhau gyda’r dysgu, a defnyddio’r iaith yn gymdeithasol, ac yn broffesiynol yn y gwaith.