Mae dysgwraig o Galiffornia wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ystod oriau mân y bore, a hynny yng nghwmni ei chi, Puck.
Dechreuodd Ariel Jackson ddysgu Cymraeg rai blynyddoedd yn ôl ar gwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ond ers y cyfnod clo, mae hi’n dilyn cwrs ar-lein, fel yr eglura;
‘‘Es i i Aberystwyth bedair gwaith cyn y cyfnod clo i ddysgu Cymraeg dros yr haf, cyn ymuno â’r cwrs haf ar-lein am 1 o’r gloch y bore yn ystod hafau 2020 a 2021. Dw i bellach yn dilyn cwrs lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ffodus, mae hwnnw am 10 o’r gloch y bore yma yng Nghaliffornia!’’
Cafodd Ariel ei swyno gan y Gymraeg pan ddaeth yma ar ei gwyliau gyda’i mam rai blynyddoedd yn ôl. Wrth deithio o amgylch y wlad, roedd hi’n mwynhau ceisio darllen yr arwyddion Cymraeg, a phenderfynodd yn y fan a’r lle ei bod am ymdrechu i ddysgu’r iaith.
Un o uchafbwyntiau wythnos Ariel a Puck ydy mynychu’r dosbarth rhithiol, fel yr eglura;
‘‘Dw i'n caru’r dosbarthiadau rhithiol. Mae’n golygu mod i’n gallu dysgu ar raddfa gyson, yn hytrach na dysgu popeth mewn mis bob haf. Mae’r dysgwyr eraill a’r tiwtor mor gyfeillgar a dw i’n mwynhau dod i adnabod pawb yn y dosbarth. Mae Puck hefyd yn mwynhau cymryd rhan yn y wers. Mae’n eistedd wrth fy ochr ac yn dweud ‘Shwmae’ ac mae’r dysgwyr yn ymateb gan ddweud ‘Helo Puck!’’’
Gan nad oes modd i Ariel ymarfer ei Chymraeg rhyw lawer y tu hwnt i’r dosbarth rhithiol, mae gwrando ar Radio Cymru a gwylio S4C Clic wedi bod o gymorth mawr iddi. Rhai o’i hoff raglenni teledu ydy Iaith ar Daith ac Am Dro, ac mae’n gwrando ar Galwad Cynnar, yn ogystal â phodlediad arbennig i ddysgwyr ar BBC Radio Cymru o’r enw Pigion.
Hobi ydy’r Gymraeg i Ariel ar hyn o bryd ond gall hynny newid yn y dyfodol;
‘‘Dw i’n hapus yma ar hyn o bryd, ond pan fyddai’n rhugl yn y Gymraeg, fy mreuddwyd ydy gweithio fel tiwtor dysgu Cymraeg neu gyfieithydd… ac o bosib symud i Gymru rhyw ddydd.’’
Bydd ystod o gyrsiau dysgu Cymraeg newydd yn cychwyn yn mis Ionawr – am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ewch i https://dysgucymraeg.cymru