Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgwraig a’i chi yn dysgu Cymraeg yng Nghaliffornia

Dysgwraig a’i chi yn dysgu Cymraeg yng Nghaliffornia
Llun Ariel a Puck

Mae dysgwraig o Galiffornia wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ystod oriau mân y bore, a hynny yng nghwmni ei chi, Puck.

Dechreuodd Ariel Jackson ddysgu Cymraeg rai blynyddoedd yn ôl ar gwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Ond ers y cyfnod clo, mae hi’n dilyn cwrs ar-lein, fel yr eglura;

‘‘Es i i Aberystwyth bedair gwaith cyn y cyfnod clo i ddysgu Cymraeg dros yr haf, cyn ymuno â’r cwrs haf ar-lein am 1 o’r gloch y bore yn ystod hafau 2020 a 2021.  Dw i bellach yn dilyn cwrs lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Yn ffodus, mae hwnnw am 10 o’r gloch y bore yma yng Nghaliffornia!’’

Cafodd Ariel ei swyno gan y Gymraeg pan ddaeth yma ar ei gwyliau gyda’i mam rai blynyddoedd yn ôl.  Wrth deithio o amgylch y wlad, roedd hi’n mwynhau ceisio darllen yr arwyddion Cymraeg, a phenderfynodd yn y fan a’r lle ei bod am ymdrechu i ddysgu’r iaith.

Un o uchafbwyntiau wythnos Ariel a Puck ydy mynychu’r dosbarth rhithiol, fel yr eglura;

‘‘Dw i'n caru’r dosbarthiadau rhithiol.  Mae’n golygu mod i’n gallu dysgu ar raddfa gyson, yn hytrach na dysgu popeth mewn mis bob haf.  Mae’r dysgwyr eraill a’r tiwtor mor gyfeillgar a dw i’n mwynhau dod i adnabod pawb yn y dosbarth.  Mae Puck hefyd yn mwynhau cymryd rhan yn y wers.  Mae’n eistedd wrth fy ochr ac yn dweud ‘Shwmae’ ac mae’r dysgwyr yn ymateb gan ddweud ‘Helo Puck!’’’

Gan nad oes modd i Ariel ymarfer ei Chymraeg rhyw lawer y tu hwnt i’r dosbarth rhithiol, mae gwrando ar Radio Cymru a gwylio S4C Clic wedi bod o gymorth mawr iddi.  Rhai o’i hoff raglenni teledu ydy Iaith ar Daith ac Am Dro, ac mae’n gwrando ar Galwad Cynnar, yn ogystal â phodlediad arbennig i ddysgwyr ar BBC Radio Cymru o’r enw Pigion.

Hobi ydy’r Gymraeg i Ariel ar hyn o bryd ond gall hynny newid yn y dyfodol;

‘‘Dw i’n hapus yma ar hyn o bryd, ond pan fyddai’n rhugl yn y Gymraeg, fy mreuddwyd ydy gweithio fel tiwtor dysgu Cymraeg neu gyfieithydd… ac o bosib symud i Gymru rhyw ddydd.’’

Bydd ystod o gyrsiau dysgu Cymraeg newydd yn cychwyn yn mis Ionawr – am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ewch i https://dysgucymraeg.cymru