Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgwraig yn dychwelyd i’w gwaith i gefnogi rhaglen frechu COVID-19

Jacqui Reynolds

Mae nyrs oedd wedi ymddeol, newydd ddychwelyd i’w gwaith er mwyn cefnogi rhaglen frechu COVID-19, ac mae wedi parhau i ddysgu Cymraeg drwy hyn oll.

Mae Jacqui Reynolds yn byw yn Aberdâr, a bu’n gweithio am flynyddoedd fel nyrs cyn geni yn ardaloedd Abertawe a Morgannwg.  Bu hefyd yn gweithio fel ymwelydd iechyd yng Nghwm Cynon, cyn penderfynu ymddeol y llynedd.  Yn ddiweddar, derbyniodd hyfforddiant sydd wedi ei galluogi i gefnogi’r rhaglen frechu, fel yr eglura;

‘‘Yn ystod yr hyfforddiant, cefais fy niweddaru ar y brechlynnau, a dysgu sut maen nhw’n gweithio ac yn cael eu rhoi yn saff.’’

Cyn cyfnod COVID-19, roedd Jacqui yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg ac yn mwynhau cael cyfle i ymarfer ei Chymraeg wrth fynd â’i hŵyr i’r cylch meithrin lleol.  Mae Jacqui wedi parhau i ddysgu ac mae bellach yn mynychu dosbarth lefel Canolradd ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  

Mae Jacqui yn canmol y gwersi ar-lein;

‘‘Mae dysgu Cymraeg ar Teams yn gyfarwydd iawn bellach a dw i’n mwynhau’r broses.  Yn y gwersi, ’dyn ni’n dysgu’r iaith ond ’dyn ni hefyd yn dod i ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru.  Fy nghyngor i i eraill sy’n dymuno dysgu Cymraeg yw i fynd amdani.  Mae amser yn ffactor i lawer ond mae gwersi yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar y penwythnosau ar gael.  Mae’r tiwtor yn wych, ac mae hi’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf trwy gynnwys sleidiau cerddoriaeth yn y gwersi a llawer mwy.’’

Yn ôl Eluned Winney, tiwtor Jacqui;

‘‘Mae’r dosbarth cyfan yn falch iawn o Jacqui a’i hymdrech i gefnogi’r rhaglen frechu.  Hyd yn oed yn ystod yr hyfforddiant caled a blinedig, mi wnaeth Jacqui barhau i fynychu’r dosbarth Cymraeg.  Mae wedi bod yn wych gweld ei hyder yn tyfu wrth iddi siarad Cymraeg a gwn y bydd y cleifion hynny sy’n siarad Cymraeg yn gwerthfawrogi bod Jacqui yn gallu cyfathrebu â hwy yn eu hiaith gyntaf.’’

Mae Jacqui yn bwriadu parhau i ddysgu Cymraeg ac yn gobeithio y bydd cyfleoedd ar gael i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol eto cyn bo hir;

‘‘Oherwydd COVID-19, dw i wedi defnyddio llai o Gymraeg gan nad ydw i’n cyfarfod pobl wyneb yn wyneb nac yn mynychu’r Cylch Meithrin gyda fy ŵyr.  Eleni, wrth i bethau wella, dw i’n gobeithio gallu defnyddio’r sgiliau dw i wedi eu dysgu yn y dosbarth mewn sefyllfaoedd anffurfiol mor aml ag y medra i.’’