Mae dysgwraig sy’n hanu o orllewin Swydd Efrog, wedi ennill cwrs Dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, sef y ganolfan iaith a diwylliant yng ngogledd orllewin Cymru.
Enillodd Sarah Zylinski, a ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym mis Ionawr, y cwrs trwy gymryd rhan mewn arolwg ar-lein o’r enw ‘Dweud eich Dweud’ gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lle bu’n lleisio ei barn am ddysgu’r iaith.
Dywedodd Sarah, sydd yn dilyn cwrs lefel Mynediad gydag un o ddarparwyr y Ganolfan Genedlaethol sef Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor:
‘‘Dw i’n meddwl bod y ddarpariaeth ar gyfer oedolion i ddysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn wych, ac roeddwn i’n awyddus i allu cyfleu hynny. Dw i’n credu ei bod yn bwysig i’r rheiny ohonom sydd yn awyddus i ddysgu’r iaith gael digon o gyfleoedd a chefnogaeth wrth ddysgu.’’
Mae Sarah, sydd yn byw yng Nghwm-y-Glo ar gyrion Caernarfon, yn mynychu dosbarth nos wythnosol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Sarah yn defnyddio ei Chymraeg wrth gyfarch pobl mewn siopau lleol a gyda chydweithwyr yn y Brifysgol lle mae’n ddarlithydd mewn Bioleg y Môr.
Mae Sarah yn edrych ymlaen at wella ei sgiliau ar y cwrs yn Nant Gwrtheyrn a hefyd ennill hyder er mwyn gwneud mwy o ddefnydd o’i Chymraeg. Mae hefyd yn edrych ymlaen at dreulio amser mewn lle mor ysbrydoledig:
‘‘Roeddwn i’n cerdded y bryniau uwchben Nant Gwrtheyrn ac yn meddwl ei fod yn lle mor hardd, felly roedd hi’n gyffrous meddwl y gallwn fynd a threulio amser yno! Mi fuaswn i wirioneddol yn hoffi siarad gyda fy ffrindiau a’m cymdogion yn eu hiaith eu hunain. Dw i wrth fy modd yn byw yng ngogledd Cymru ac mae’n ymddangos bod gallu siarad yr iaith yn rhan bwysig iawn o fy mywyd yma.’’
Llun: Sarah (ar y chwith) gyda'i ffrind Holly, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg, yn cerdded yng ngogledd Cymru.