Yr wythnos hon, mae cynllun Cymraeg Gwaith, sy’n darparu hyfforddiant Cymraeg mewn gweithleoedd ledled Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr eu gwobrau cenedlaethol ar gyfer 2022.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei drefnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu gyda thiwtor, cyrsiau hunan-astudio, cyrsiau codi hyder a chyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer sectorau gwahanol.
Roedd chwech categori eleni, a dyma’r rhai ddaeth i’r brig:
- Robert Easton – Coleg Llandrillo Menai (Dysgwr Lefel Mynediad)
- Fiona Hennah – Coleg y Cymoedd (Dysgwr Lefel Sylfaen)
- Angelina Mitchell – Cwmni ACT Training (Dysgwr Lefel Canolradd)
- Mark Butler – Ysbyty Maelor Wrecsam (Dysgwr Lefel Uwch+)
- Dr Lois Slaymaker-Jones (Tiwtor Cymraeg Gwaith y flwyddyn)
- Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyflogwr Cymraeg Gwaith y flwyddyn)
Yn ôl Siwan Iorwerth, Rheolwr Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Cafwyd llu o enwebiadau eleni, pob un o safon uchel, ac yn dyst i boblogrwydd y cynllun ymhlith cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.
“Mi oedd yn bleser darllen yr holl enwebiadau a chael dathlu llwyddiannau dysgwyr Cymraeg Gwaith ym mhob cwr o’r wlad.”
Aeth y wobr am y tiwtor gorau i Dr Lois Slaymaker-Jones, sy’n gweithio fel tiwtor ar gyfer Addysg Uwch / Addysg Bellach gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Cafodd ei henwebu gan fyfyriwr yn ei dosbarth.
Wrth enwebu, dywedodd y myfyriwr, “Mae’n bleser dysgu Cymraeg gyda Lois. Dw i’n hapus i wthio fy hun gan nad ydy Lois byth yn gwneud i mi deimlo’n wirion os ydw i’n gwneud camgymeriad - yn hytrach, mae’n egluro os nad ydy rhywbeth yn hollol gywir, fel y galla i ddysgu a chofio.
“Diolch iddi hi, dw i’n gobeithio y bydda i cyn bo hir yn ddigon hyderus i newid fy statws i ‘Siaradwr Cymraeg’ a helpu i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.”
Wrth dderbyn y wobr, rhannodd Lois beth oedd yn bwysig iddi hi wrth addysgu’r iaith i eraill. Dywedodd,
“Dw i’n hoffi pobl, a’r peth pwysig i mi yw empathi. Mae croesawu a chefnogi dysgwyr o bob cefndir i fwynhau dysgu’r Gymraeg wrth galon ein gwaith.
“Nid yw’r daith iaith yn un gystadleuol ac mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus i ateb cwestiynau a pheidio poeni am gael pob dim yn iawn bob tro!
“Dylai dysgu Cymraeg fod yn rhywbeth sy’n gwneud ein myfyrwyr yn hapus, ac sy’n ennyn eu hyder.”
Aeth y wobr yn y categori ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Gorfforaethol a Datblygu CNC, “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon. Rydym yn gweithio’n agos gydag aelodau o’r cyhoedd ym mhob rhan o Gymru ac mae’n bwysig bod ein staff yn gallu siarad yn newis iaith y bobl. Rydym hefyd yn awyddus i weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg sy’n cael ei wneud yn fewnol.
“Mae’r wobr hon yn arwydd o waith caled y tîm bach sy’n arwain ar waith dysgu Cymraeg o fewn y sefydliad.”
Mae manylion am yr holl enillwyr, a gwybodaeth am sut y gall cyflogwyr ymuno yn y cynllun, ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – dysgucymraeg.cymru.