Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Enillwyr Gwobrau Cymraeg Gwaith 2022 yn cael eu cyhoeddi

Enillwyr Gwobrau Cymraeg Gwaith 2022 yn cael eu cyhoeddi

Yr wythnos hon, mae cynllun Cymraeg Gwaith, sy’n darparu hyfforddiant Cymraeg mewn gweithleoedd ledled Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr eu gwobrau cenedlaethol ar gyfer 2022.

Mae’r cynllun, sy’n cael ei drefnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu gyda thiwtor, cyrsiau hunan-astudio, cyrsiau codi hyder a chyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer sectorau gwahanol.

Roedd chwech categori eleni, a dyma’r rhai ddaeth i’r brig:

  • Robert Easton – Coleg Llandrillo Menai (Dysgwr Lefel Mynediad)
  • Fiona Hennah – Coleg y Cymoedd (Dysgwr Lefel Sylfaen)
  • Angelina Mitchell – Cwmni ACT Training (Dysgwr Lefel Canolradd)
  • Mark Butler – Ysbyty Maelor Wrecsam (Dysgwr Lefel Uwch+)
  • Dr Lois Slaymaker-Jones (Tiwtor Cymraeg Gwaith y flwyddyn)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyflogwr Cymraeg Gwaith y flwyddyn)

Yn ôl Siwan Iorwerth, Rheolwr Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Cafwyd llu o enwebiadau eleni, pob un o safon uchel, ac yn dyst i boblogrwydd y cynllun ymhlith cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.

“Mi oedd yn bleser darllen yr holl enwebiadau a chael dathlu llwyddiannau dysgwyr Cymraeg Gwaith ym mhob cwr o’r wlad.” 

Aeth y wobr am y tiwtor gorau i Dr Lois Slaymaker-Jones, sy’n gweithio fel tiwtor ar gyfer Addysg Uwch / Addysg Bellach gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).  Cafodd ei henwebu gan fyfyriwr yn ei dosbarth.

Wrth enwebu, dywedodd y myfyriwr, “Mae’n bleser dysgu Cymraeg gyda Lois.  Dw i’n hapus i wthio fy hun gan nad ydy Lois byth yn gwneud i mi deimlo’n wirion os ydw i’n gwneud camgymeriad - yn hytrach, mae’n egluro os nad ydy rhywbeth yn hollol gywir, fel y galla i ddysgu a chofio.

“Diolch iddi hi, dw i’n gobeithio y bydda i cyn bo hir yn ddigon hyderus i newid fy statws i ‘Siaradwr Cymraeg’ a helpu i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.”

Wrth dderbyn y wobr, rhannodd Lois beth oedd yn bwysig iddi hi wrth addysgu’r iaith i eraill. Dywedodd,

Dw i’n hoffi pobl, a’r peth pwysig i mi yw empathi.  Mae croesawu a chefnogi dysgwyr o bob cefndir i fwynhau dysgu’r Gymraeg wrth galon ein gwaith.

“Nid yw’r daith iaith yn un gystadleuol ac mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus i ateb cwestiynau a pheidio poeni am gael pob dim yn iawn bob tro!

“Dylai dysgu Cymraeg fod yn rhywbeth sy’n gwneud ein myfyrwyr yn hapus, ac sy’n ennyn eu hyder.”

Aeth y wobr yn y categori ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Gorfforaethol a Datblygu CNC, “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon. Rydym yn gweithio’n agos gydag aelodau o’r cyhoedd ym mhob rhan o Gymru ac mae’n bwysig bod ein staff yn gallu siarad yn newis iaith y bobl. Rydym hefyd yn awyddus i weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg sy’n cael ei wneud yn fewnol.

“Mae’r wobr hon yn arwydd o waith caled y tîm bach sy’n arwain ar waith dysgu Cymraeg o fewn y sefydliad.”

Mae manylion am yr holl enillwyr, a gwybodaeth am sut y gall cyflogwyr ymuno yn y cynllun, ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – dysgucymraeg.cymru.