Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gwyddonydd yn dal ati gyda’r Gymraeg yn Antartica

Gwyddonydd yn dal ati gyda’r Gymraeg yn Antartica

Roedd gwyddonydd newid hinsawdd o Brifysgol Aberystwyth, a dreuliodd Dydd Nadolig yn Antartica fel rhan o’i gwaith maes, yn falch iawn o ddal ati gyda’i Chymraeg yng nghanol yr eira a’r iâ, er gwaetha’r diffyg cyswllt rhyngrwyd.

Mae Katie Miles, sy’n wreiddiol o Lundain, wedi bod yn dysgu Cymraeg ddwywaith yr wythnos ers 2020, gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys - Sir Gâr, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Roedd Katie yn awyddus i ymarfer ei Chymraeg pan fu’n gweithio am wyth wythnos yng ngorsaf ymchwil Rothera ac ar silff rew Larsen C ar Benrhyn Antartica.  Roedd hi’n rhan o brosiect fu’n edrych ar y modd mae rhew yn torri, ac yn cyfrannu at lefelau’r môr yn codi.

Mi wnaeth Katie fwynhau defnyddio Duolingo, ac mi wnaeth hi lawr lwytho Podlediad Pigion y Dysgwyr BBC Radio Cymru, er mwyn gwrando arno yn y mannau mwyaf anghysbell, pan nad oedd cyswllt rhyngrwyd o gwbl.

Penderfynodd Katie ddysgu Cymraeg er mwyn defnyddio’r iaith gyda ffrindiau a chydweithwyr, fel yr eglura;

‘‘Ro’n i eisiau siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau, achos roedden nhw yn dueddol o siarad Saesneg tra ro’n i yn eu cwmni.  Ro’n i hefyd eisiau defnyddio ychydig o Gymraeg wrth fy ngwaith, a dw i’n ceisio defnyddio’r iaith pan dw i’n gallu.  Mae siarad gyda ffrindiau a chydweithwyr yn eu mamiaith a deall cymaint mwy o’m cwmpas wrth i fy Nghymraeg wella, yn deimlad arbennig.’’

Dyma oedd ymweliad cyntaf Katie ag Antartica ac mae’n gobeithio mynd i Ddwyrain Antartica i ymgymryd â phrosiect ymchwil tebyg yn hwyrach eleni.  Mi wnaeth hi fwynhau pob munud o’r daith;

‘‘Cafodd y daith adref ar yr awyren ei hoedi achos roedd rhew difrifol yno, felly bu rhaid i ni dreulio Dydd Nadolig yn yr orsaf ymchwil.  Ro’n i’n drist mod i’n methu bod adref gyda’r teulu, ond roedd pawb mor groesawgar.  Mi wnes i sgïo yn y bore, canu carolau ar fwrdd llong RRS Sir David Attenborough, gweld pengwiniaid, a chael cinio Nadolig hyfryd gyda’r hwyr.’’

Ers dychwelyd i Aberystwyth, mae Katie wedi manteisio ar bob cyfle posib i ymarfer siarad Cymraeg gyda’i mentor, Caroline White;

‘‘Mae cyfarfod Caroline unwaith bob pythefnos wedi bod yn hwb mawr i mi.  ’Dyn ni’n ymarfer pethau o’r dosbarth, edrych dros bapurau arholiad, neu yn cael sgwrs.  Mae hi mor gefnogol a bu o gymorth mawr wrth i mi baratoi ar gyfer fy arholiad Dysgu Cymraeg.  Dw i’n ddiolchgar iawn i Caroline am gynnig ei hamser ac am fy nghefnogi ar y siwrnai hon.’’

Ychwanegodd Caroline White;

‘‘Dw i wrth fy modd yn cyfarfod Katie ac yn gweld ei sgiliau Cymraeg yn datblygu.  Mae hi’n gydwybodol ac mi wnaeth gwblhau ei gwaith cartref cyn mynd ar y daith rhag ofn iddi fod ar ei hôl hi.  ’Dyn ni’n cyfarfod ers y cyfnod clo ond wnaethon ni gyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.  Mae’n bleser gallu cyfarfod wyneb yn wyneb rwan a chefnogi Katie gyda’i thaith i ddysgu’r iaith.’’