Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Bexi

Holi Bexi

Yma, ’dyn ni’n holi Bexi Owen, cantores a chyfansoddwraig (composer), sy’n dod o Gilgwri, ger Lerpwl.  Mae Bexi yn dysgu Cymraeg ar lefel Sylfaen gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro.

O ble dach chi’n dod a beth yw eich cefndir?

Ces i fy magu yng Ngogledd Orllewin Lloegr, ar ôl i fy nhad symud yno o Ynys Môn.  Ro’n i’n arfer treulio fy ngwyliau ysgol i gyd yn Ynys Môn, gyda fy nain a fy nhaid, felly dw i wastad wedi teimlo rhyw berthynas agos efo ochr Gymraeg fy nheulu, er nad oeddwn i’n gallu siarad Cymraeg.

Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?

Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg ers peth amser, i gadarnhau fy mherthynas ag ochr Gymraeg fy nheulu, ac er mwyn siarad efo aelodau o’r teulu sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.  Dw i wrth fy modd gyda sŵn yr iaith, a gan fy mod i’n cyfansoddi caneuon, dw i’n edrych ymlaen at ysgrifennu mwy o ganeuon yn Gymraeg.

Sut brofiad ydy dysgu mewn dosbarth rhithiol?

Mae’r newid i ddysgu ar-lein wedi gwneud hi’n bosib i mi ddysgu Cymraeg, achos mae’r dosbarth agosa ata i dros awr i ffwrdd.  Dw i wir yn gwerthfawrogi gallu eistedd gartre neu yn fy ngardd a dysgu Cymraeg ar yr un pryd.  Mae’r tiwtoriaid yn wych ac maen nhw mor amyneddgar efo ni.  Mae’r awyrgylch yn gefnogol iawn.

Dach chi’n siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth rhithiol?

Mae gen i deulu mawr ac mae sawl un ohonynt yn siarad Cymraeg felly dw i’n gallu ymarfer efo nhw.  Dw i’n ffonio fy Nain bron bob nos, a dan ni’n sgwrsio yn Gymraeg am yr hyn dan ni wedi bod yn ei wneud.

Beth dach chi’n ei fwynhau fwyaf am ddysgu Cymraeg?

Dw i wrth fy modd yn dod o hyd i ymadroddion newydd oherwydd mae cymaint o idiomau barddonol yn Gymraeg.  Dw i’n mwynhau eu cynnwys yn fy nghaneuon ac mae bod yn greadigol yn Gymraeg wedi gwella fy Nghymraeg llafar hefyd.

Unrhyw gyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?

Y ffordd orau yn fy marn i ydy cynnwys y Gymraeg ym mhopeth dw i’n ei wneud.  Yn fy achos i, mae’n golygu cyfansoddi a sgwrsio gyda fy nheulu.  I eraill efallai ei fod yn golygu edrych ar raglen dditectif ond gwneud hynny ar S4C.  Neu efallai bod rhywun sy’n hoffi pobi yn gallu dechrau darllen rysetiau yn Gymraeg.  Mae cynnwys y Gymraeg mewn bywyd pob dydd yn teimlo’n fwy naturiol a llawen.

Beth dach chi’n ei fwynhau fwyaf, cyfansoddi caneuon Cymraeg neu Saesneg?

Dw i’n hoff iawn o’r caneuon dw i wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, achos dw i’n teimlo mod i’n gallu cyflwyno’r Gymraeg i fy nghynulleidfaoedd yn Lloegr, heb eithrio pobl, ac ar yr un pryd ymchwilio i fy nghefndir Cymraeg a Saesneg.

Dach chi wedi dilyn cwrs yn Nant Gwrtheyrn - sut argraff wnaeth o arnoch chi?

Dw i wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i greu cerddoriaeth newydd yn Gymraeg a Saesneg.  Roedd rhan o’r gronfa yma yn fy ngalluogi i aros yn y Nant a chyfansoddi caneuon, a chael fy ysbrydoli gan y lleoliad a’r amgylchiadau anhygoel.  Mi ges i groeso cynnes yno, ac ro’n i’n gallu ymarfer fy Nghymraeg tra’n derbyn anogaeth ar yr un pryd.  Mi faswn yn argymell y lle ar gyfer cwrs neu ar gyfer ymweliad hamddenol.

Dysgu Cymraeg - beth ydy’r cam nesaf i chi?

Dw i’n edrych ymlaen at ddechrau lefel Canolradd cyn hir.  Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn i weld lle fydd yr antur yma’n mynd â fi.