Holi Bill Boyd
Mae Bill Boyd, sy’n byw ym Manceinion, yn gweithio yn ystod yr wythnos yn ardal Trawsfynydd gyda chwmni peirianyddol Hochtief, ar brosiect arbennig i adeiladu twnnel o dan afon Dwyryd.
Mae Bill, sy’n dod o’r Alban, wedi bachu ar y cyfle i ddysgu Cymraeg tra’i fod e’n gweithio yn yr ardal, ac mae’n dilyn cwrs i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
O ble dych chi’n dod?
Dw i’n dod o Glasgow yn wreiddiol, ond wedi byw yn ardal Manceinion ers dros 30 mlynedd. Ro’n i’n gweithio ym maes bancio ac yswiriant am amser hir, ond dw i’n gweithio yn y byd adeiladu ers 15 mlynedd.
Pam dych chi’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n hoffi ieithoedd a dw i’n hoffi dysgu pethau newydd. Roedd mynd i wersi yn y gwaith yn gyfle rhy dda i’w golli. Dw i yn yr ardal rhwng dydd Llun a dydd Gwener, felly ro’n i’n meddwl ei fod yn bwysig i mi fedru ymwneud â phobl yn eu hiaith eu hunain.
Dych chi’n mwynhau dysgu Cymraeg gyda’ch cydweithwyr?
Yn bendant. Mae wedi bod yn ffordd dda o ddod i adnabod ein gilydd, ac mae’n deimlad gwych pan dan ni wedi cyflawni rhywbeth, a chael rhywbeth yn gywir.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Rhoi sioc i bobl pan dw i’n gallu rhoi brawddeg cymharol gall at ei gilydd!
Unrhyw gyngor i eraill sy’n dysgu Cymraeg?
Dewch o hyd i rywun sy’n fodlon siarad gyda chi yn bwyllog, a fel gydag unrhyw beth arall, ymarfer, ymarfer, ymarfer.
Beth sy nesa i chi gyda dysgu Cymraeg?
Parhau a gobeithio ymuno gyda grŵp ar-lein er mwyn gwella fy ynganu.
Llun: Bill yn mynd â Ralph, y ci am dro.