Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Bill Boyd

Holi Bill Boyd

Mae Bill Boyd, sy’n byw ym Manceinion, yn gweithio yn ystod yr wythnos yn ardal Trawsfynydd gyda chwmni peirianyddol Hochtief, ar brosiect arbennig i adeiladu twnnel o dan afon Dwyryd.

Mae Bill, sy’n dod o’r Alban, wedi bachu ar y cyfle i ddysgu Cymraeg tra’i fod e’n gweithio yn yr ardal, ac mae’n dilyn cwrs i ddechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

O ble dych chi’n dod?

Dw i’n dod o Glasgow yn wreiddiol, ond wedi byw yn ardal Manceinion ers dros 30 mlynedd.  Ro’n i’n gweithio ym maes bancio ac yswiriant am amser hir, ond dw i’n gweithio yn y byd adeiladu ers 15 mlynedd.

Pam dych chi’n dysgu Cymraeg?

Dw i’n hoffi ieithoedd a dw i’n hoffi dysgu pethau newydd.  Roedd mynd i wersi yn y gwaith yn gyfle rhy dda i’w golli.  Dw i yn yr ardal rhwng dydd Llun a dydd Gwener, felly ro’n i’n meddwl ei fod yn bwysig i mi fedru ymwneud â phobl yn eu hiaith eu hunain.

Dych chi’n mwynhau dysgu Cymraeg gyda’ch cydweithwyr?

Yn bendant.  Mae wedi bod yn ffordd dda o ddod i adnabod ein gilydd, ac mae’n deimlad gwych pan dan ni wedi cyflawni rhywbeth, a chael rhywbeth yn gywir.

Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Rhoi sioc i bobl pan dw i’n gallu rhoi brawddeg cymharol gall at ei gilydd!

Unrhyw gyngor i eraill sy’n dysgu Cymraeg?

Dewch o hyd i rywun sy’n fodlon siarad gyda chi yn bwyllog, a fel gydag unrhyw beth arall, ymarfer, ymarfer, ymarfer.

Beth sy nesa i chi gyda dysgu Cymraeg?

Parhau a gobeithio ymuno gyda grŵp ar-lein er mwyn gwella fy ynganu.

Llun: Bill yn mynd â Ralph, y ci am dro.