Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Eirian Conlon

Eirian Conlon

Sgwrs gydag Eirian, tiwtor newydd gwersi byw ‘Deg am 3pm’

Mae Eirian Conlon yn gweithio i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lle mae’n un o’r tîm sy’n gyfrifol am lunio cyrsiau cenedlaethol ar gyfer dysgwyr.  Mae Eirian hefyd yn diwtor Cymraeg profiadol, a dros yr wythnosau diwethaf, mae hi wedi bod yn defnyddio’r llwyfan fideo gynadledda, Zoom, i ddysgu ei myfyrwyr.  Eirian, hefyd, sy’n dysgu gwersi byw ‘Deg am 3pm’ ar dudalen Facebook y Ganolfan am yr wythnosau nesaf.

Pwy wyt ti ac o ble wyt ti’n dod yn wreiddiol?
Eirian Wyn Conlon dw i. Mi ges i fy ngeni ym Mangor, ro’n i’n byw yn Sir Fôn nes o’n i’n 4 oed, wedyn mi wnes i symud i Dreffynnon yn Sir Fflint ac i’r Wyddgrug pan o’n i’n 15. Dw i’n dal yna! 

Ers faint wyt ti’n dysgu Cymraeg i oedolion? 

Ers talwm! 

Sut ddest ti’n diwtor Cymraeg?
Mi wnes i ddysgu un dosbarth nos pan oeddwn i adre efo babi, a ges i’r ‘byg’ yn syth!  Ro’n i wrth fy modd o’r wers gyntaf a dyna oedd fy ngwaith i wedyn.

Beth yw’r peth gorau am fod yn diwtor?
Cyfarfod pobl glên a diddorol a medru gweld nhw’n dŵad i siarad Cymraeg.

Sut brofiad yw dysgu o bell?

Gwahanol! Dan ni i gyd wedi dysgu’n gyflym! Doedd gen i ddim syniad be oedd Zoom mis Chwefror, ond erbyn hyn dw i’n gweld posibiliadau lu i’w ddefnyddio i ddysgu. 

Beth yw dy gyngor i bobl sy eisiau dysgu neu ymarfer yn y cartref?

Os dach chi’n dilyn cwrs yn barod, mae’r cyrsiau hynny yn parhau o bell, felly gwnewch yn siŵr bod chi’n ‘troi fyny’ bob wythnos fel fasech chi i’r wers. Cadwch mewn cysylltiad efo eich ffrindiau sy’n siarad/dysgu Cymraeg. Mae gan fy nosbarth i grŵp Whatsapp doniol iawn! Defnyddiwch yr adnoddau ar-lein sy’n helpu efo’r cwrs. Edrychwch ar Golwg 360, BBC Cymru Fyw ac S4C Clic - maen nhw’n wych! Rhowch Radio Cymru mlaen am awr bob dydd. 

Os dach chi ddim mewn dosbarth eto – beth am ddefnyddio’r amser yma i ddechrau dysgu Cymraeg?  Mae cyrsiau ar-lein newydd yn dechrau yn y Gwanwyn ac mae cyrsiau blasu byr hefyd ar gael.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Cymraeg! Dw i’n gwenu ac yn teimlo’n gynnes pan dw i’n dweud neu glywed y gair. 

Beth yw’r profiad mwyaf doniol i ti gael wrth ddysgu? 
Flynyddoedd yn ôl, ro’n i’n trefnu trip bob blwyddyn i Gaerdydd - roedd llawer o ddysgwyr a thiwtoriaid y Gogledd yn dod i siarad Cymraeg yn y brifddinas am ddwy noson. Gawson ni lot fawr o hwyl yn aros yng Ngwersyll yr Urdd Bae Caerdydd. Mae chwerthin yn bwysig pan dach chi’n dysgu Cymraeg! 

Sut wyt ti’n ymdopi gyda bod adref?

Dw i’n lwcus – dw i’n byw rhwng y dre a’r wlad a dw i’n medru cerdded bob dydd i weld blodau gwyllt. A dan ni’n brysur iawn yn y gwaith ar hyn o bryd, yn cyflwyno adnoddau digidol newydd a’r cyrsiau ar-lein ar gyfer y Gwanwyn.  
golwg