Holi Ewan Smith
Yma, ’dyn ni’n holi Ewan Smith, enillydd cystadleuaeth farddoniaeth Eisteddfod AmGen 2021.
Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.
O ble dach chi’n dod a beth yw eich cefndir?
Ges i fy magu ar fferm fach yn Sir Perth yn Yr Alban. Roedd pob dydd ar y fferm yn antur, ac mi ges i blentyndod gwych yno. Mae gan Anna, fy ngwraig a fi dri o blant. Pan oedd y plant yn fach, ro’n i’n edrych ar eu holau ac Anna yn gweithio. Yna, gwnes i hyfforddi fel athro ysgol gynradd. Ro’n i wrth fy modd yn gweithio gyda’r plant.
Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?
Mi wnaeth Anna a fi ymddeol bum mlynedd yn ôl a symud o Loegr i ogledd Cymru. Ro’n i isio byw yn rhywle wrth y môr, doedd dim ots lle. Daeth tŷ perffaith ar werth yn Llandrillo yn Rhos a dyma ni! Ond dan ni mor hapus, dan ni wedi ffeindio ein cartref delfrydol. Mi wnaethon ni ddechrau dysgu Cymraeg fel arwydd o barch i'n gwlad newydd. Ond rŵan dan ni'n caru'r iaith - hyd yn oed y treigladau!
Pa ddosbarth dach chi’n mynychu ac ar ba lefel dach chi?
Ro’n i’n mynychu dosbarth ym Mae Colwyn gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain ond rŵan dw i’n dysgu ar-lein. Mi nes i ddechrau lefel Canolradd fis Medi diwethaf.
Sut brofiad ydy dysgu mewn dosbarth rhithiol?
Ar y dechrau, ro’n i’n colli cyfarfod pobl wyneb yn wyneb, ac roedd problemau technegol! Ond rŵan dw i’n hapus iawn. Mae ’na lawer o gyfleoedd i ymarfer fy Nghymraeg (trwy’r Clwb Darllen, Panad & Sgwrs, Sadwrn Siarad ayyb) ac mae’r dosbarthiadau mor amrywiol. Mae un aelod o’r dosbarth yn byw yn Awstralia. Mae’n ffantastig!
Pam penderfynu ymgeisio yn yr Eisteddfod, a beth oedd ennill y wobr yn ei olygu i chi?
Mi nes i ddechrau ysgrifennu cyfieithiadau o fy ngherddi Saesneg i ymarfer fy Nghymraeg. Mi nes i anfon cerdd i’r Eisteddfod i gael hwyl! Ges i sioc fawr pan glywes i mod i wedi ennill ond ro’n i mor hapus. Mae’r profiad wedi rhoi hyder i fi ddefnyddio fy Nghymraeg.
Dach chi’n ysgrifennu llawer o gerddi?
Ydw. Dw i’n mwynhau chwarae o gwmpas efo geiriau. Dw i’n aelod o Gylch Awduron Bae Colwyn a dan ni’n cyfarfod bob wythnos i rannu ein gwaith.
Unrhyw gyngor i eraill sy’n dymuno dysgu Cymraeg?
Mwynhewch eich hun a pheidiwch â phoeni am ddim byd. Os dach chi’n gallu dweud, ‘Ga i banad o de, dim siwgr, tipyn bach o lefrith’ wedyn dach chi’n rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg!
Dach chi’n siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth rhithiol?
Does dim llawer o bobl yn siarad Cymraeg lle dw i’n byw, ond dw i wedi ffeindio ychydig. Mae Anna a fi’n siarad Cymraeg gyda'n gilydd drwy'r amser a dw i’n postio yn Gymraeg ar Twitter. Dw i hefyd yn mynychu dau Glwb Darllen a thair sesiwn Paned a Sgwrs. Yn olaf, dw i’n gwylio Rownd a Rownd a Pobol y Cwm ar S4C ac yn gwrando ar BBC Radio Cymru.
Dysgu Cymraeg – beth yw’r cam nesaf?
Dan ni'n caru dysgu Cymraeg felly dw i'n siŵr y gwnawn ni barhau ar ôl lefel Canolradd. Mae dysgu Cymraeg wedi dod yn beth pwysig iawn yn ein bywydau.
Gwrandewch ar Ewan yn adrodd ei gerdd fuddugol, ar y thema Cerdd i godi calon isod, neu mae copi o'r gerdd ar gael yma.