Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Ewan Smith

Holi Ewan Smith

Yma, ’dyn ni’n holi Ewan Smith, enillydd cystadleuaeth farddoniaeth Eisteddfod AmGen 2021. 

Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg.  Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.

O ble dach chi’n dod a beth yw eich cefndir?

Ges i fy magu ar fferm fach yn Sir Perth yn Yr Alban.  Roedd pob dydd ar y fferm yn antur, ac mi ges i blentyndod gwych yno.  Mae gan Anna, fy ngwraig a fi dri o blant.  Pan oedd y plant yn fach, ro’n i’n edrych ar eu holau ac Anna yn gweithio.  Yna, gwnes i hyfforddi fel athro ysgol gynradd.  Ro’n i wrth fy modd yn gweithio gyda’r plant.

Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?

Mi wnaeth Anna a fi ymddeol bum mlynedd yn ôl a symud o Loegr i ogledd Cymru.  Ro’n i isio byw yn rhywle wrth y môr, doedd dim ots lle.  Daeth tŷ perffaith ar werth yn Llandrillo yn Rhos a dyma ni!  Ond dan ni mor hapus, dan ni wedi ffeindio ein cartref delfrydol.  Mi wnaethon ni ddechrau dysgu Cymraeg fel arwydd o barch i'n gwlad newydd.  Ond rŵan dan ni'n caru'r iaith - hyd yn oed y treigladau!

Pa ddosbarth dach chi’n mynychu ac ar ba lefel dach chi?

Ro’n i’n mynychu dosbarth ym Mae Colwyn gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain ond rŵan dw i’n dysgu ar-lein.  Mi nes i ddechrau lefel Canolradd fis Medi diwethaf.

Sut brofiad ydy dysgu mewn dosbarth rhithiol?

Ar y dechrau, ro’n i’n colli cyfarfod pobl wyneb yn wyneb, ac roedd problemau technegol!  Ond rŵan dw i’n hapus iawn.  Mae ’na lawer o gyfleoedd i ymarfer fy Nghymraeg (trwy’r Clwb Darllen, Panad & Sgwrs, Sadwrn Siarad ayyb) ac mae’r dosbarthiadau mor amrywiol.  Mae un aelod o’r dosbarth yn byw yn Awstralia.  Mae’n ffantastig!

Pam penderfynu ymgeisio yn yr Eisteddfod, a beth oedd ennill y wobr yn ei olygu i chi?

Mi nes i ddechrau ysgrifennu cyfieithiadau o fy ngherddi Saesneg i ymarfer fy Nghymraeg.  Mi nes i anfon cerdd i’r Eisteddfod i gael hwyl!  Ges i sioc fawr pan glywes i mod i wedi ennill ond ro’n i mor hapus.  Mae’r profiad wedi rhoi hyder i fi ddefnyddio fy Nghymraeg.

Dach chi’n ysgrifennu llawer o gerddi?

Ydw.  Dw i’n mwynhau chwarae o gwmpas efo geiriau.  Dw i’n aelod o Gylch Awduron Bae Colwyn a dan ni’n cyfarfod bob wythnos i rannu ein gwaith.

Unrhyw gyngor i eraill sy’n dymuno dysgu Cymraeg?

Mwynhewch eich hun a pheidiwch â phoeni am ddim byd.  Os dach chi’n gallu dweud, ‘Ga i banad o de, dim siwgr, tipyn bach o lefrith’ wedyn dach chi’n rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg!

Dach chi’n siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth rhithiol?

Does dim llawer o bobl yn siarad Cymraeg lle dw i’n byw, ond dw i wedi ffeindio ychydig.  Mae Anna a fi’n siarad Cymraeg gyda'n gilydd drwy'r amser a dw i’n postio yn Gymraeg ar Twitter.  Dw i hefyd yn mynychu dau Glwb Darllen a thair sesiwn Paned a Sgwrs.  Yn olaf, dw i’n gwylio Rownd a Rownd a Pobol y Cwm ar S4C ac yn gwrando ar BBC Radio Cymru.

Dysgu Cymraeg – beth yw’r cam nesaf?

Dan ni'n caru dysgu Cymraeg felly dw i'n siŵr y gwnawn ni barhau ar ôl lefel Canolradd.  Mae dysgu Cymraeg wedi dod yn beth pwysig iawn yn ein bywydau.

Gwrandewch ar Ewan yn adrodd ei gerdd fuddugol, ar y thema Cerdd i godi calon isod, neu mae copi o'r gerdd ar gael yma.