Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Jacqui Spiller

Holi Jacqui Spiller

Yma, ’dyn ni’n holi Jacqui Spiller, tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Gwent ers 2006.  Mae Jacqui yn dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, fel rhan o brosiect ar y cyd gyda’r Groes Goch yng Nghasnewydd.  Mi wnaeth Jacqui ennill gwobr Athro/Athrawes Cyfrwng Cymraeg y Flwyddyn yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg, South Wales Argus 2021, a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Sut gawsoch chi swydd fel tiwtor?

Mi wnes i ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan gyda Phrifysgol Caerdydd, cyn astudio gradd yn y Gymraeg ac Addysg gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.  Mi wnes i weithio fel athrawes uwchradd am flwyddyn, cyn trio am swydd fel tiwtor gyda Phrifysgol De Cymru a Choleg Gwent.

Beth ydy’r peth gorau am fod yn diwtor?

Mae cwrdd â phobl sy eisiau dysgu’r iaith a’u gweld nhw’n mwynhau yn brofiad mor braf.  Mae’n hyfryd eu gweld yn gwneud ffrindiau gyda dysgwyr eraill, ac yn dechrau ar daith newydd sbon wrth i’r Gymraeg agor drysau iddynt.

Sut brofiad oedd dysgu ar-lein yn ystod y pandemig?

Roedd yn brofiad heriol a rhyfedd i gychwyn, ond dw i’n lwcus iawn fy mod i’n gweithio gyda thȋm cefnogol o diwtoriaid eraill, oedd yn fodlon trafod a rhannu syniadau, eu hadnoddau a’u profiadau gyda fi.

Sut brofiad ydy dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches?

Dw i wrth fy modd yn eu dysgu nhw.  Mae’r myfyrwyr – merched i gyd -  yn annwyl iawn, ac yn dod o wahanol wledydd, gan gynnwys China, Sudan, ac Eritrea.  Dw i hefyd yn gwneud dosbarthiadau cadw’n heini gyda nhw, sy’n llawer o hwyl!

Dywedwch wrthyn ni am y dosbarthiadau cadw’n heini

Dw i wrth fy modd yn gwneud ymarfer corff a dw i’n cynnal dwy sesiwn yr wythnos, mewn neuadd yn yr hydref a’r gaeaf, ac ym Mharc Penallta, ger Ystrad Mynach yn ystod y gwanwyn a’r haf.  Dw i hefyd yn cynnal sesiwn wythnosol gyda’r criw yng Nghasnewydd.  Mae’r sesiynau yn ddwyieithog ac yn boblogaidd iawn!  Mi wnes i gynnal rhai sesiynau rhithiol yn ystod y pandemig ar gyfer Menter Iaith Caerffili a Menter Iaith Blaenau Gwent.

Beth mae ennill y wobr yn ei olygu i chi?

Mae’n anrhydedd, dw i wrth fy modd ac yn teimlo’n falch iawn.

Llun: Jacqui Spiller, ar y dde, yn derbyn ei gwobr.