Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Lorraine

Holi Lorraine

Mae Lorraine Lloyd yn byw yn Arberth, ac yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Gwent ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg.  Dyma ychydig o’i hanes:

O ble dych chi’n dod, a ble dych chi’n byw nawr?

Ges i fy magu yn Aberdaugleddau tan ro’n i’n ddeg oed, ac wedyn yn Abergwaun.  Dw i’n byw yn Arberth nawr.

Pam dechrau dysgu Cymraeg?

Roedd fy mam, mamgu a thadcu yn siarad Cymraeg, ond dim gyda fi.  Doedd dad ddim yn gallu siarad Cymraeg.  Ar ôl gweithio yn Lloegr am ddegawdau, ac yna dychwelyd i Gymru, ro’n i’n benderfynol o ddysgu Cymraeg.  Roedd Shan, un o fy ffrindiau gorau, yn ysbrydoliaeth mawr.

Dych chi’n siarad ieithoedd eraill?

Ydw – Ffrangeg, a thipyn bach o Sbaeneg ac Eidaleg.

Gyda phwy dych chi’n siarad Cymraeg?

Gyda Shan a’i theulu hi, a gyda ffrindiau eraill sy’n ddysgwyr.

Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dw i’n gallu sgwrsio gyda fy ffrind a’i theulu yn Gymraeg, ac yn teimlo’n fwy cyfforddus yn eu cwmni, gan nad oes angen iddynt siarad Saesneg nawr.

Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i chi?

Mae wedi newid fy mywyd!  Dw i mor falch fy mod i wedi gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg.  Dw i’n gallu mwynhau diwylliant Cymru, ac edrych ar S4C bron heb isdeitlau.  Hefyd, mi wnes i dreulio cwpwl o wythnosau yn Nant Gwrtheyrn, oedd yn brofiad anhygoel.

Pa raglenni dych chi’n hoffi gwylio ar S4C?

Dw i’n mwynhau gwylio Pobol y Cwm, Sgwrs Dan Y Lloer, Am Dro, Dan Do, Cymry ar Gynfas a llawer mwy!  Dw i hefyd wedi mwynhau sawl drama yn ddiweddar, gan gynnwys Anfamol a Pren ar Y Bryn.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?

Ewch amdani!  Cymerwch bob cyfle i ymuno gyda digwyddiadau lleol yn Gymraeg.  Peidiwch â phoeni os dych chi’n gwneud camgymeriadau, mae pawb yn gwneud nhw.  Hefyd, cofiwch bod cymaint yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg ar-lein.  Yn ddiweddar, dw i wedi ymuno â chlwb darllen ar-lein, sy wedi rhoi hwb mawr i fi.