Holi Mike
Mae Mike Brown yn byw ym Merthyr, ac yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Gwent ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Dyma ychydig o’i hanes:
Gyda phwy dych chi’n siarad Cymraeg/ble dych chi’n ymarfer?
Dw i’n aelod o ddau ddosbarth gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Dw i hefyd yn aelod o’r cynllun Siarad ac yn cael gwers un i un gyda thiwtor bob wythnos. Dw i’n gwneud llawer o bethau yn y gymuned, fel mynd am dro gyda grŵp cerdded Menter Iaith Caerffili, a mynd i sawl bore coffi bob mis. Mae llawer o gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg yn yr ardal, dw i’n lwcus iawn!
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Ymuno â diwylliant newydd – mae’n agor drysau i mewn i fyd newydd.
Pa wahaniaeth mae dysgu Cymraeg wedi ei wneud i chi?
Mae fy mywyd yn fwy cyfoethog, achos dw i wedi dysgu cymaint am ddiwylliant Cymru.
Dych chi’n hoffi gwylio S4C neu wrando ar BBC Radio Cymru?
Weithiau, dw i’n gwylio S4C Clic gyda is-deitlau. Dw i’n mwynhau gwrando ar Radio Cymru, rhaglenni fel Dros Frecwast a’r Post Prynhawn. Dw i hefyd yn gwrando ar bodlediadau fel ‘Siarad Moel’ a ‘Pigion.’
Unrhyw gyngor i ddysgwyr eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?
Dod o hyd i'r grŵp cywir, ac ymarfer yng nghwmni eraill cymaint â phosibl. Gall e fod yn llawer o hwyl!
Dych chi’n gobeithio parhau i ddysgu Cymraeg?
Heb os nac oni bai!