Holi Myra
Cafodd Myra Dawson ei magu yn Llundain. Roedd rhieni Myra yn siarad Cymraeg ac yn wreiddiol o Geredigion.
Roedd ei rhieni yn siarad Cymraeg yn y cartref, ond doedd Myra ddim yn siarad Cymraeg gyda nhw.
50 mlynedd wedyn, adeg y cyfnod clo, penderfynodd Myra basai hi’n hoffi dysgu iaith ei rhieni a chofrestrodd i wneud cwrs mewn dosbarth rhithiol gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion - Powys - Sir Gâr.
Cawson ni sgwrs gyda Myra i gael ychydig o’i hanes yn ail-ddysgu Cymraeg.
Gawn ni gychwyn trwy gael ychydig o hanes eich teulu yn Llundain – pam symudodd eich rhieni yno?
Gwnaeth fy rhieni gyfarfod yn Llundain, er fod y ddau yn dod o Sir Aberteifi. Roedd y ddau wedi symud yno yn eu harddegau i chwilio am waith, a’r ddau wedi cael swydd mewn siop.
Ar ôl priodi, mi wnaethon nhw agor caffi yng nghanol Llundain ar un o’r strydoedd bach oddi ar Regent Street.
Yna, mi wnaethon nhw werthu’r caffi yn y 60au a phrynu gwesty bach yn Marble Arch – a dyna ble roedden nhw nes iddyn nhw ymddeol.
Oeddech chi’n siarad Cymraeg yn blentyn?
Ro’n i’n deall bob gair ond gwnes i ballu siarad Cymraeg gyda fy rhieni. Roedd fy chwaer fawr yn siarad Cymraeg gyda nhw, ond wnes i ddim.
Roedden ni’n mynd i’r capel Cymraeg yn Llundain, ac roeddwn i’n fodlon gwneud darlleniad yn Gymraeg, ond roeddwn i’n pallu siarad Cymraeg ag unrhyw un.
Mi wnes i wedyn briodi Sais, siarad Saesneg gyda fy mhlant a byw bywyd hollol Seisnig – roedd yr iaith Gymraeg yn amherthnasol i mi.
Felly pryd a pham wnaethoch chi benderfynu dysgu Cymraeg?
Adeg y cyfnod clo, ro’n i’n chwilio am rhywbeth i’w wneud. Gwnes i feddwl am bob math o bethau ac wedyn meddwl ‘efallai y galla i wneud rhywbeth gyda fy Nghymraeg’.
Gwnes i ddod o hyd i gwrs haf trwy Dysgu Cymraeg Ceredigion a mwynhau yn fawr iawn. Ro’n i’n cofio’r Gymraeg yn well nag ro’n i wedi ei ddisgwyl.
Ro’n i’n gweld ysgrifennu yn anodd, achos do’n i erioed wedi cael gwers ffurfiol yn blentyn. Do’n i ddim yn deall y rheolau iaith o gwbl. Roedd fy ngwaith yn llawn camgymeriadau.
Tair mlynedd yn ddiweddarach, mae fy Nghymraeg wedi gwella yn aruthrol a dw i wir yn mwynhau siarad Cymraeg. Erbyn hyn, dw i’n gwneud cwrs Gloywi gyda Dysgu Cymraeg Gwent.
Beth fydd eich cam nesaf?
Mi wnes i ddechrau Dysgu Cymraeg achos fy mod i’n chwilio am rhywbeth i’w wneud; rhywbeth baswn i’n ei fwynhau ac yn cadw fy ymennydd yn ystwyth a dyna beth dw i’n ei wneud o hyd.
Ambell waith, dw i’n meddwl baswn i’n hoffi byw yng Nghaerdydd – achos basai pobl yno yn siarad Cymraeg, ond baswn i’n dal i fyw mewn dinas.
Ond ar hyn o bryd, does gen i ddim bwriad symud. Dw i’n hapus iawn yn Dorchester, Dorset achos mae fy mab a’i deulu yn byw 7 milltir lawr y lôn.