Holi Nadine
Mae Nadine Lia Pike yn 28 oed ac yn dod o Gastell-Nedd. Mae’n gweithio fel athrawes mewn ysgol gynradd Gymraeg.
Aeth i ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg ond roedd yn mwynhau y gwersi Cymraeg yn yr ysgol yn fawr.
Parhaodd i ddysgu Cymraeg fel oedolyn ac mae hi erbyn hyn yn gwneud cwrs Gloywi gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dyma ychydig o’i hanes:
Oeddet ti yn mwynhau Dysgu Cymraeg yn yr ysgol?
Oeddwn yn sicr. Es i i Ysgol Gynradd Crynallt lle ro’n i’n mwynhau dysgu a defnyddio Cymraeg.
Wedyn, es i i Ysgol Gyfun Cefn Saeson. Ro’n i’n cael gwersi Cymraeg bob wythnos a ches i A* yn TGAU Cymraeg Ail Iaith.
Wedyn es i i’r chweched dosbarth yn Ysgol San Joseff, ble gwnes i Lefel A Cymraeg yn fy amser fy hun. Ro’n i’n mwynhau astudio Cymraeg yn yr ysgol yn fawr iawn ond roedd hi’n heriol.
Beth wyt ti’n hoffi am siarad Cymraeg?
Dw i wastad wedi mwynhau dysgu Cymraeg. Dw i’n cofio, ar ôl gwers ym mlwyddyn 4, gwnes i ddweud ‘pan dw i’n tyfu lan, dw i eisiau siarad Cymraeg yn rhugl’!
Ar ôl llwyddiant TGAU a Lefel A, r’on i’n awyddus i barhau i ddysgu Cymraeg a gwneud yn siŵr nad o’n i’n colli’r Gymraeg. Felly, dechreuais i chwilio am gwrs Cymraeg i Oedolion.
Gwnes i ddechrau cwrs Canolradd yn 2016 gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.
Sut brofiad ydy Dysgu Cymraeg fel oedolyn?
Dw i wedi mwynau dysgu Cymraeg a dw i’n falch mod i’n siarad yr iaith yn rhugl – basai hynny wedi gwneud y fi naw mlwydd oed yn hapus iawn!
Dw i wedi gwneud sawl cwrs dros y blynyddoedd a dw i wedi dwlu ymarfer Cymraeg gyda llawer o bobl wahanol.
Ond fe ddylwn i ddweud bod dysgu Cymraeg yn rhwystredig weithiau, yn arbennig pan dw i ddim yn gallu cofio geiriau newydd!
Sut mae dy fywyd wedi newid ers dysgu Cymraeg?
Mae dysgu Cymraeg wedi cael dylanwad mawr ar fy mywyd. Dw i’n defnyddio Cymraeg cymaint â phosibl a dw i’n helpu pobl eraill sy’n dysgu’r iaith yn ystod bore coffi yn y llyfrgell leol.
Dw i’n defnyddio Cymraeg yn y gwaith gan fy mod i’n dysgu mewn ysgol gyfrwng Cymraeg ac yn rhannu’r iaith gyda’r genhedlaeth nesaf.
Beth yw’r peth gorau am siarad Cymraeg?
Y peth gorau am siarad Cymraeg yw’r teimlad fy mod i’n helpu sicrhau dyfodol yr iaith yn fy ngwlad fy hun.