Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Nadine

Holi Nadine

Mae Nadine Lia Pike yn 28 oed ac yn dod o Gastell-Nedd.  Mae’n gweithio fel athrawes mewn ysgol gynradd Gymraeg.

Aeth i ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg ond roedd yn mwynhau y gwersi Cymraeg yn yr ysgol yn fawr.

Parhaodd i ddysgu Cymraeg fel oedolyn ac mae hi erbyn hyn yn gwneud cwrs Gloywi gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dyma ychydig o’i hanes:

Oeddet ti yn mwynhau Dysgu Cymraeg yn yr ysgol?

Oeddwn yn sicr.  Es i i Ysgol Gynradd Crynallt lle ro’n i’n mwynhau dysgu a defnyddio Cymraeg.

Wedyn, es i i Ysgol Gyfun Cefn Saeson.  Ro’n i’n cael gwersi Cymraeg bob wythnos a ches i A* yn TGAU Cymraeg Ail Iaith.

Wedyn es i i’r chweched dosbarth yn Ysgol San Joseff, ble gwnes i Lefel A Cymraeg yn fy amser fy hun.  Ro’n i’n mwynhau astudio Cymraeg yn yr ysgol yn fawr iawn ond roedd hi’n heriol.    

Beth wyt ti’n hoffi am siarad Cymraeg?

Dw i wastad wedi mwynhau dysgu Cymraeg.  Dw i’n cofio, ar ôl gwers ym mlwyddyn 4, gwnes i ddweud ‘pan dw i’n tyfu lan, dw i eisiau siarad Cymraeg yn rhugl’!

Ar ôl llwyddiant TGAU a Lefel A, r’on i’n awyddus i barhau i ddysgu Cymraeg a gwneud yn siŵr nad o’n i’n colli’r Gymraeg.  Felly, dechreuais i chwilio am gwrs Cymraeg i Oedolion.     

Gwnes i ddechrau cwrs Canolradd yn 2016 gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. 

Sut brofiad ydy Dysgu Cymraeg fel oedolyn? 

Dw i wedi mwynau dysgu Cymraeg a dw i’n falch mod i’n siarad yr iaith yn rhugl – basai hynny wedi gwneud y fi naw mlwydd oed yn hapus iawn! 

Dw i wedi gwneud sawl cwrs dros y blynyddoedd a dw i wedi dwlu ymarfer Cymraeg gyda llawer o bobl wahanol. 

Ond fe ddylwn i ddweud bod dysgu Cymraeg yn rhwystredig weithiau, yn arbennig pan dw i ddim yn gallu cofio geiriau newydd!   

Sut mae dy fywyd wedi newid ers dysgu Cymraeg?

Mae dysgu Cymraeg wedi cael dylanwad mawr ar fy mywyd.  Dw i’n defnyddio Cymraeg cymaint â phosibl a dw i’n helpu pobl eraill sy’n dysgu’r iaith yn ystod bore coffi yn y llyfrgell leol. 

Dw i’n defnyddio Cymraeg yn y gwaith gan fy mod i’n dysgu mewn ysgol gyfrwng Cymraeg ac yn rhannu’r iaith gyda’r genhedlaeth nesaf.

Beth yw’r peth gorau am siarad Cymraeg?

Y peth gorau am siarad Cymraeg yw’r teimlad fy mod i’n helpu sicrhau dyfodol yr iaith yn fy ngwlad fy hun.