Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Shelagh Fishlock

Holi Shelagh Fishlock

Yma, ’dyn ni’n holi Shelagh Fishlock, sy'n byw ym Mryste.  Mae Shelagh wedi dysgu Cymraeg ac mae’n mwynhau darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg.  Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.

Pam dych chi wedi dysgu Cymraeg a sut?  

Dw i wedi bod ar wyliau i Gymru sawl tro, a gwnes i ddechrau dangos diddordeb yn hanes y wlad a’r Gymraeg o ganlyniad.  Gwnes i gwrs wythnos oedd yn rhad ac am ddim cyn ymrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg.  Dw i’n mwynhau dysgu am draddodiadau, llenyddiaeth a hanes Cymru.

Beth oedd eich hoff lyfr fel plentyn? 

Fel plentyn, ro’n i’n darllen trwy’r amser.  Dw i’n cofio darllen y papur newydd gyda fy Nhad-cu yn fach iawn, a hefyd llyfrau am arth, The Adventures of Mary Plain.

Hoff lyfr fel oedolyn? 

Dw i’n mwynhau llyfrau Alexander McCall Smith ac Ellis Peters.  Mae’r ddau yn disgrifio’r gymdeithas mewn ffordd eironig ond mwyn.  

Hoff lyfr yn y gyfres Amdani?  

Ces i hwyl yn darllen Cyffesion Saesnes yng Nghymru.  Mae’n wych bod dewis eang o lyfrau ar gael i ddysgwyr ar bob lefel erbyn hyn.

Dych chi’n aelod o grŵp darllen? 

Dw i’n aelod o grŵp darllen Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr ar Zoom.  Mae pawb yn y grŵp mor groesawgar a chefnogol.

Hoff lyfr Cymraeg?

Un o fy hoff lyfrau ydy Naw Mis gan Caryl Lewis - mae hi’n stori drawiadol a thyner.  Dw i hefyd yn mwynhau llyfrau ysgafnach gan Myfanwy Alexander, Bethan Gwanas, Daniel Davies, Mared Lewis, Marlyn Samuel - mae’r rhestr yn hir...

Dych chi’n ysgrifennu yn Gymraeg? 

Dw i’n ysgrifennu erthyglau i’r Wennol, sef cylchgrawn ar-lein gan ddysgwyr i ddysgwyr, a dw i’n cystadlu weithiau - erthygl, limrig neu stori fer.  

Dych chi eisiau ysgrifennu mwy yn Gymraeg? 

Gwnes i ennill yn yr Eisteddfod Amgen yn ystod y pandemig am ysgrifennu pennod gyntaf nofel i ddysgwyr.  Roedd hynny’n her go iawn, a dw i ddim wedi creu’r stori i gyd eto.  Dylwn i drio, felly gawn ni weld...

Dych chi’n byw yn Lloegr.  Sut dych chi’n mwynhau defnyddio eich Cymraeg?

Dw i’n cwrdd yn rheolaidd â grŵp Cymraeg yma ym Mryste, a dw i’n lwcus bod Bryste mor agos at Gymru.  Bues i yn Y Fenni i ddathlu’r Hen Galan, gyda’r Fari Lwyd a gwasanaeth Plygain.  Dw i’n mynd ar deithiau cerdded Cymdeithas Edward Llwyd yn y De a’r Canolbarth.  Dw i hefyd yn gwirfoddoli mewn ysgol Gymraeg ger Cas-gwent, yn darllen gyda’r plant.  Mae bod yn rhan o gymuned yn bosib heb fyw mewn gwlad, dw i’n teimlo mor lwcus!