Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Sioned Erin Hughes

Holi Sioned Erin Hughes

Yma, ʼdyn ni’n holi Sioned Erin Hughes, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Ceredigion 2022 am ei chyfrol o straeon byrion, Rhyngom.  Mae Erin yn byw ym Moduan, ger Pwllheli ac yn gweithio i’r Lolfa yn ogystal â gweithio’n llawrydd ar wahanol brosiectau.

Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg.  Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.

Beth oedd dy hoff lyfr yn blentyn?

Fflos a Me Bach oedd fy hoff lyfr yn blentyn, a dw i’n dal i gofio’r teimlad cynnes, cartrefol o gael Mam yn ei ddarllen i mi amser gwely.  Dydi rhywun ddim yn anghofio pethau felly.

Beth yw dy hoff lyfr fel oedolyn?

Mae’n anodd dewis un.  Yn Saesneg, The Choice gan Edith Eger, Know My Name gan Chanel Miller, Educated gan Tara Westover, The Body Keeps The Score gan Bessel Van Der Kolk, The Man Who Mistook His Wife for a Hat gan Oliver Sacks, ac wrth gwrs, The History of Love gan Nicholas Krauss.  Yn Gymraeg, dw i’n hoffi gwaith Aled Jones-Williams, Sonia Edwards ac Angharad Tomos.  Yn Hon Bu Afon Unwaith, Rhwng Noson Wen a Phlygain a Wele’n Gwawrio ydy rhai o drysorau mwyaf yr iaith Gymraeg, yn fy marn i.

Pryd wnes di ddechrau ysgrifennu?

Yn 2016, sef fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol.  Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn athroniaeth, ieithoedd, y cysylltiad rhwng pobl a gwahanol ddiwylliannau.  Roedd gen i lawer i’w ddweud ond dim syniad sut i fynegi hynny mewn ffordd greadigol.  Mi fues i’n sâl ac mi wnaeth hynny fy ngorfodi i roi cynnig ar ysgrifennu.

Ble wyt ti’n ysgrifennu?

Adra yn fy ngharafán, fel arfer.  Ond dw i angen ysgrifennu drama fer erbyn diwedd Mawrth, felly dw i’n mynd i aros yn y Nant, bwthyn Canolfan Tŷ Newydd.  Gobeithio fydd newid bach yn rhoi digon o jiws i mi ysgrifennu’r ddrama!

Pa bynciau sy’n dy ysbrydoli di i ysgrifennu?

Pethau o bwys.  Mae fy sgwennu i’n aml yn ddwys, achos mae’r pethau pwysicaf i’w trafod yn aml yn bethau difrifol a thrwm.  Mi faswn i wrth fy modd yn sgwennu rhywbeth ysgafn a doniol!  Ond mae hynny’n fwy o her, a byddai hynny’n cymryd dipyn o amser i mi.

Unrhyw gyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu?

Mi all eich sgwennu chwarae rôl enfawr wrth newid pethau, a gwneud y byd yma’n lle gwell.