Mae dysgu Cymraeg wedi dod yn rhan hollbwysig o fywyd Liz Backen ers iddi symud i Gymru chwe blynedd yn ôl. Ar ôl symud i Sir Benfro a chael ei thrydydd plentyn, ymunodd â 'Cymraeg i’r Teulu', cwrs Cymraeg wedi'i deilwra yn arbennig i rieni ym mis Medi 2017.
Yn ôl Liz;
‘‘Ro’n i eisiau dysgu siarad Cymraeg i helpu fy mhlant i ddechrau. Ro’n i'n gwybod y byddai symud i Gymru yn golygu bod y plant yn mynd i ddysgu'r iaith yn yr ysgol, felly ro’n i eisiau eu cefnogi nhw cymaint â phosib.”
Cyn bo hir, dechreuodd Liz siarad Cymraeg gyda'i phlant bob dydd. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfnod clo pan oedd y plant yn cael eu dysgu gartref.
Yn ystod y cyfnod clo, manteisiodd Liz hefyd ar gefn gwlad Sir Benfro a mwynhau cerdded gyda'i phlant a dysgu geiriau newydd, fel yr eglura;
“Tra ro’n i’n cerdded roedd y plant yn gofyn beth oedd enwau gwahanol blanhigion a choed yn Gymraeg felly penderfynais sefydlu cyfrif Instagram Dysgu Cymraeg Wrth Gerdded i gadw cofnod o beth ro’n i wedi'i ddysgu ac er mwyn rhannu gyda dysgwyr eraill.”
Yn ogystal â dysgu’r iaith, mae’r diwylliant wedi dod yn rhan bwysig o fywyd Liz. Mi wnaeth Liz fwynhau cyflwyno ‘Gwlad y Gân’ sef sioe gerddoriaeth Gymraeg ar Pure West Radio. Rhannodd rai o’i hoff ganeuon Cymraeg, gan gynnwys ‘Adre’ gan ei hoff gantores Gwyneth Glyn.
Ym mis Hydref 2021 mi wnaeth Liz gymryd rhan mewn cwis i ddysgwyr Cymraeg ar BBC Radio Cymru. Ar ôl mynd trwy'r rownd gyntaf aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.
Ar hyn o bryd mae Liz yn dilyn cwrs dysgu Cymraeg lefel Uwch ar gyfer dysgwyr profiadol gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Liz yn edrych ymlaen at barhau i ddysgu’r iaith;
‘‘Dw i bellach yn dysgu Cymraeg i’w ddefnyddio gyda’r plant ond mae hefyd wedi dod yn rhan mor fawr o fy mywyd. Mae dysgu’r iaith wedi agor cymaint o gyfleoedd cyffrous i fi. Hoffwn ddiolch yn fawr i fy nhiwtoriaid am eu cefnogaeth barhaus. Os dych chi’n ystyried dysgu Cymraeg, ewch amdani. Wnewch chi ddim difaru!’’