Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Llanilltud Fawr yn ysbrydoli cyn swyddog yn y Fyddin i ddysgu Cymraeg

Ben Lawson 1

Cafodd Ben Lawson sy'n wreiddiol o West Lothian yn yr Alban ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar ôl gweld arwyddion dwyieithog yn Llanilltud Fawr.

Symudodd Ben, oedd yn gweithio fel rheolwr i'r Awyrlu, i Lanilltud Fawr yn 2013 i fwynhau ei ymddeoliad gyda'i wraig, Pamela.

Mi gafodd diddordeb Ben yn yr iaith ei gynnau gan yr amryfal arwyddion dwyieithog, ac mi gofrestrodd Ben ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Bro Morgannwg, wedi'i drefnu gan Gyngor Bro Morgannwg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Er nad oedd gan Ben unrhyw ddealltwriaeth o'r iaith cyn dechrau, erbyn hyn mae wedi cwblhau pump cwrs Dysgu Cymraeg.  Mae Ben yn teimlo'n hyderus i siarad yr iaith ac mae'n gallu ymarfer sgwrsio yn Gymraeg sawl gwaith yr wythnos, yn sgil y gwahanol gyfleoedd fel boreau coffi a chwisiau, sydd ar gael i ddefnyddio'r iaith yn lleol.

Mae Ben, a ddaeth yn gyfarwydd gyda Llanilltud Fawr tra'n ymweld â’r weinyddiaeth amddiffyn yn Saint Athan gyda'i waith yn egluro:  ‘‘Pan symudais i gyntaf i Lanilltud Fawr, mi wnaeth wawrio arna i fy mod i wedi symud i wlad lle nad oeddwn yn medru siarad yr iaith.  Roeddwn i eisiau deall arwyddion Cymraeg yn hytrach na gorfod dibynnu ar gyfieithiadau o'r Saesneg.  Roeddwn i eisiau bod y cyntaf yn y teulu i fedru siarad yr iaith, oherwydd does gan berthnasau Cymraeg fy ngwraig ddim dealltwriaeth o'r iaith o gwbl.’’

Mae Ben yn llawn canmoliaeth i'w diwtoriaid:  

''Mae'r tiwtoriaid yn wych, fuaswn i ddim wedi cyrraedd lle ydw i heddiw oni bai amdanynt. Mae'r dysgwyr eraill mor frwd a chefnogol. ’Dyn ni’n cyfarfod dwy neu dair gwaith yr wythnos a dw i'n mwynhau dysgu gyda nhw.’’

Mi wnaeth Ben gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd y llynedd, fel aelod o’r Côr Dysgwyr, ac roedd yn falch tu hwnt o'r cynnydd oedd wedi’i wneud yn yr iaith: ‘‘Mi gefais gryn dipyn o hwyl ac mi roedd yn gamp aruthrol i mi.  Feddylies i erioed y byddai dysgu Cymraeg yn lleol yn golygu y byddai pethau fel hyn yn digwydd i mi.’’

Cyngor Ben i unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg ydy dyfalbarhau:

''Defnyddiwch yr iaith cymaint â phosib, a gwnewch eich gorau bob tro. Mae pawb dw i wedi eu cyfarfod mor gefnogol ac nid yw pobl yn malio os dych chi’n gwneud camgymeriad, neu gofynnwch iddynt siarad yn arafach.’’

Mae Ben yn dysgu pibgorn i Frigâd y Bechgyn lle mae'n swyddog.  Yn ystod y sesiynau, mae wrth ei fodd yn ymarfer y Gymraeg gyda’r aelodau sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yr ardal.

Mae Ben yn gefnogwr brwd o weledigaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050:  

‘‘Os bydd pobl o bob oed a gallu yn dysgu Cymraeg, mae'r targed yn gyraeddadwy. Mae'n iaith hardd ac mi fyddwn yn annog unrhyw un i'w dysgu.’’

Er mwyn dod o hyd i gwrs neu am gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru neu rhowch gynnig ar ein cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.