Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Mam a merch yn dysgu Cymraeg yn Stockholm a Coventry

Mam a merch yn dysgu Cymraeg yn Stockholm a Coventry
Lauren a Barbara

Mae mam a merch wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo, er eu bod yn byw miloedd o filltiroedd ar wahân.

Dechreuodd Barbara Raybould a Lauren Black ddysgu Cymraeg ar Zoom ym mis Mai.  Daeth Lauren, sy’n cynllunio dillad bechgyn i siop H&M yn Stockholm, o hyd i’r cwrs sy’n cael ei drefnu gan Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a dwyn perswâd ar ei mam i wneud rhywbeth positif gyda’i hamser.

Ar hyn o bryd, mae Barbara yn edrych ar ôl ei thad yn Coventry, ond fel arfer yn byw ac yn gweithio yng Nghymru am ran o’r wythnos.  Mae Barbara wedi byw yng Nghymru ers 1982, ac mae wastad wedi bod eisiau gallu dweud mwy nag enwau llefydd yn unig.  Meddai Barbara;

‘‘Dw i wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Canolfan Addysg Awyr Agored Bryntysilio yn Llangollen ers 17 mlynedd.  Pan fyddaf yn dychwelyd i’r gwaith, dw i’n mynd i ymarfer siarad Cymraeg efo staff sy’n dysgu’r iaith, yn ogystal â defnyddio’r sgiliau dw i wedi eu dysgu yn y gweithle.’’

Cafodd Barbara ei magu yn Iwerddon ond cafodd Lauren ei geni yng Nghymru, a’i chyflwyno i’r Gymraeg yn Ysgol Bryn Alyn, Wrecsam.  Daeth Lauren o hyd i’r cwrs ar-lein a neidio ar y cyfle i ail-gydio yn yr iaith, gan nad oedd hi wedi defnyddio’r Gymraeg ers gadael yr ysgol.

Meddai Lauren:  ‘‘Roeddwn wedi bod eisiau dysgu Cymraeg ers blwyddyn neu ddwy, ond roedd yn anodd gan nad ydw i’n byw yng Nghymru.  Pan wnes i glywed am y cwrs yma, mi wnes i ffonio Mam ac mi wnaethon ni benderfynu cofrestru.  Does dim cyfnod clo yn Stockholm, ond mae wedi bod yn braf cael rhywbeth i wneud gyda’r nos.’’

Mae’r ddwy yn mwynhau’r cwrs, ac yn gobeithio parhau i ddysgu fis Medi, fel yr eglura Barbara;

‘‘Dw i wedi mwynhau cyfarfod pobl newydd yn ystod y cyfnod clo ac mae siarad efo Lauren bob wythnos wedi fy ngalluogi i ymarfer fy Nghymraeg a sicrhau mod i’n ynganu yn gywir!  Mae’r tiwtor, Huw, yn bositif iawn ac yn ein hannog i ddal ati.  Dan ni’n dwy isio parhau i ddysgu Cymraeg a dan ni’n bwriadu dilyn cwrs arall fis Medi.’’

Bydd cyrsiau Cymraeg ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i siaradwyr mwy profiadol, yn dechrau fis Medi, gyda’r mwyafrif yn cael eu cynnal ar-lein, fel cyrsiau dysgu o bell, ar y dechrau.  Mae gostyngiad o 50% i bawb sy’n archebu eu lle ar gwrs cyn diwedd Gorffennaf.  Ewch i dysgucymraeg.cymru am fwy o wybodaeth.

Dewch i ddysgu mwy am stori Barbara a Lauren yn Hwyl yr Haf, cylchgrawn ar-lein i ddysgwyr, sydd ar gael yma.