Minty - Dydd Miwsig Cymru
Sgwrs gyda Minty
Daw Minty o Gaerdydd. Mae’n ddarlledwr ac mae’n cynhyrchu podlediadau. Mae e hefyd yn ddysgwr Cymraeg brwd. Mae Minty yn cefnogi Dydd Miwsig Cymru eleni, dathliad o gerddoriaeth Gymraeg.
O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir?
Ces i fy magu mewn dau bentref bach glofaol yn y Cymoedd. Ces i fy ngeni yn Abertyleri ac yna symudon ni draw i’r Coed Duon pan o’n i tua saith mlwydd oed. Dw i’n cofio bod y Gymraeg yn rhan o’r cwricwlwm yn yr ysgol, ac ro’n i’n mwynhau dysgu Cymraeg yn yr ysgol uwchradd. Dim ond un wers yr wythnos oedd, ond roedd hi’n wych cael dysgu’r iaith drwy sialensau gwahanol a geirfa newydd. Ar ôl i fi adael yr ysgol yn 2005 collais y rhan fwyaf o’r iaith, ond nawr dw i’n cael y cyfle i ddysgu eto.
O ble daeth y syniad o greu podlediadau?
Ces i’r syniad ar ôl i mi fethu â chael tocyn i gig yn 2016 – roedd y tocynnau a oedd ar ôl yn ddrud dros ben. Ro’n i’n siomedig, a meddyliais i y byddai llawer o bobl eraill yn yr un sefyllfa. Penderfynais i greu rhaglen wythnosol a oedd yn adolygu gigiau yng Nghaerdydd. Drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol dw i’n cyhoeddi pa docynnau sydd ar fin mynd ar werth, ac mae’r podlediadau’n danfos yr hyn sy’n digwydd yng Nghaerdydd i weddill y wlad.
Dy uchelgais?
I fod yn fan cychwyn ar gyfer darganfod beth sy ’mlaen yng Nghaerdydd ac yng Nghymru.
Dy hoff beth a dy gas beth?
Hoff beth: Fy nghasgliad o gemau retro.
Fy nghas beth: Celery, heb os.
Beth wyt ti’n hoffi ei wneud yn dy amser rhydd?
Does dim byd yn curo mynd i gig. Dw i’n mynd i gig oleia dwy neu dair gwaith yr wythnos. Fel arfer dw i ddim yn gwybod pwy fydda i’n mynd i’w weld. Dw i’n mwynhau’r risg o beidio â gwybod dim am y gerddoriaeth neu’r artist o flaen llaw. Dylai pobl roi cynnig ar bethau newydd, yn enwedig gigs Cymraeg. Does dim angen deall bob gair er mwyn gallu mwynhau’r gerddoriaeth a’r awyrgylch.
Y gig orau i ti fod ynddi a pham?
Dw i’n creu mai un o fy hoff gigs oedd gweld The Cure am y tro cyntaf yn Reading yn 2012 neu gweld Sigur Ros ar lwyfan John Peel yn Glastonbury yn 2016. R’on i wedi aros am o leiaf wyth mlynedd i weld y ddau fand, ac ro’n i’n emosiynol iawn. Os yw gig yn eich gwneud yn emosiynol, yna yn sicr, mi fydd yn aros yn y cof am amser hir.
Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Ro’n i wedi dechrau dysgu yn yr ysgol, ac yna wedi colli’r gallu i siarad Cymraeg ar ôl gadael. Bellach dw i’n dechrau dysgu eto a dw i’n teimlo’n falch iawn o fod yn byw mewn gwlad sydd ag iaith mor brydferth.
Yr her fwyaf i ti fel dysgwr hyd yn hyn?
Heb os, yr her fwyaf yw dysgu strwythur geiriau a brawddegau. Dw i’n deall nifer fawr o eiriau Cymraeg ond mae hi’n anodd eu rhoi at ei gilydd mewn brawddeg sy’n gwneud synnwyr.
Dy hoff air Cymraeg?
Hufen ia neu mwg
Traciau/bandiau y byddet ti yn eu hargymell i bobl sydd heb wrando ar gerddoriaeth Gymraeg o’r blaen?
Yn ddiweddar, es i wylio Chroma am tua’r pymthegfed tro ac maen nhw’n wych. Yr oedd y perfformiad yn anhygoel. Mi fyddwn i’n argymell i chi fynd i’w gweld yn awr tra bod cyfle i’w gweld mewn lleoliadau bach.
Dw i hefyd yn hoffi EP Ysgol Sul “Huno”. Dw i’n cofio eu gweld yn perfformio Dwi ar Dân, cân o’r EP ar Focus Wales yn 2016, ac mae’r perfformiad wedi aros yn y cof.
Un o’r bandiau dw i wrth fy modd yn canu gyda nhw yw Fleur De Lys. Mae Cofia Anghofia yn gân i wrando arni pan fyddwch chi yn y gawod neu yn y car. Dw i’n cofio’r geiriau i gyd!
Ond alla i ddim anghofio am The Gentle Good chwaith. Mae Gareth Bonello yn ŵr bonheddig, ac yn berfformiwr o fri. Yr oeddwn yn falch iawn o’i weld yn codi’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017. Os hoffech chi ddechrau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, dyma lle mae cychwyn!
Beth yw’r peth gorau am Ddydd Miwsig Cymru?
Y peth gorau yw i allu dweud wrth y byd am y Gymraeg. Mae’n iaith fendigedig ac mae gennym gymaint o gerddorion gwych yn canu yn yr iaith honno. Mae angen i ni ddathlu’r talentau yma.
Unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg/unrhyw un sy’n meddwl am ddysgu’r Gymraeg?
Daliwch ati! Rhowch eiriau Cymraeg yn eich brawddegau wrth i chi siarad â’ch ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol fel eich bod yn gallu cofio’r geiriau hynny. Ewch ati i edrych ar yr holl adnoddau gwych sydd yma yng Nghymru ar gyfer dysgwyr.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Caru cerddoriaeth fyw.