Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Petula: sioe ddwyieithog newydd sbon

Petula: sioe ddwyieithog newydd sbon

Bydd cyfle i ddysgwyr fwynhau sioe ddwyieithog newydd sbon o’r enw Petula pan fydd yn mynd ar daith o amgylch theatrau Cymru ym mis Mawrth. Cafodd y sioe ei datblygu gan National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August012, ac mae’n addasiad newydd o waith Fabrice Melquiot.

Mae’r sioe yn dilyn hynt cymeriad Pwdin Evans wrth iddo fynd ar antur i’r gofod er mwyn chwilio am ei gyfnither coll, Petula, ac er mwyn canfod ateb i’r cwestiwn mawr: sut yn y byd wyt ti fod i dyfu fyny a phopeth o dy gwmpas di’n cwympo’n ddarnau?

Bydd yn bosib i ddysgwyr ar bob lefel dysgu i fwynhau Petula gan ei bod yn sioe ddwyieithog ac yn cynnwys uwchdeitlo. Yn ogystal, bydd cyfle i ddysgwyr wrando ar sgyrsiau dwyieithog a fydd yn cael eu cynnal ar ôl dau berfformiad. Bydd y rhain yn cael eu cynnal gan Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn Theatr y Sherman, Caerdydd ar nos Wener, 18 Mawrth, a gan Eirian Conlon, Swyddog Cefnogi Dysgwyr y Ganolfan, yng nghanolfan Pontio, Bangor ar nos Wener, 25 Mawrth.

Bydd gostyngiad o £1 ar docynnau pobl sy’n cymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan, sy’n paru dysgwyr lefel Canolradd gyda siaradwyr Cymraeg.

Dyddiadau’r Daith

Theatr y Sherman, Caerdydd 12, 14–19 Mawrth
029 2064 6900 | shermantheatre.co.uk
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre 22–23 Mawrth
01970 62 32 32 | aberystwythartscentre.co.uk
Pontio, Bangor 25–26 Mawrth
01248 382828 | pontio.co.uk
Ffwrnes, Llanelli 29–30 Mawrth
0345 2263510 | theatrausirgar.co.uk

Theatr y Torch, Aberdaugleddau 1–2 Ebrill
01646 695267 | torchtheatre.co.uk
Glanyrafon/Riverside, Casnewydd 5 Ebrill
01633 656757 | newportlive.co.uk/en/venues/riverfront
Theatr Brycheiniog 8 Ebrill
01874 611622 | brycheiniog.co.uk