Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Porth ar-lein newydd sbon

Porth ar-lein newydd sbon

Ffenestr siop newydd ar gyrsiau
Cymraeg i’r gweithlu addysg

Mae gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg i’n gweithlu addysg nawr ar gael mewn porth ar-lein newydd sbon: Cymraeg Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg  

Bydd y porth, sydd wedi’i greu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn helpu ymarferwyr addysg i ddod o hyd i gwrs addas fel bo mwy a mwy o bobl yn dysgu’n hiaith neu’n gwella eu sgiliau. Mae’r datblygiad yn ganlyniad cyhoeddiad Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y bydd cyrsiau Cymraeg ar gael am ddim i’r gweithlu addysg o fis Medi 2022 ymlaen.

Mae darpariaeth eang ar gael gan y Ganolfan Genedlaethol a’i phartneriaid: y Cynllun Sabothol Cenedlaethol; Consortia Addysg; ac Awdurdodau Lleol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Dewis helaeth o gyrsiau cymunedol mewn dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb a rhithiol. Mae’r rhain ar gael ar bum lefel dysgu.
  • Cyrsiau’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol, sef cyrsiau dwys ar bedair lefel sy’n cael eu darparu trwy amryw o fodelau gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd.
  • Cyrsiau hunan-astudio ar-lein, gan gynnwys cyrsiau byrion ar gyfer arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr cynradd ac uwchradd, a chwrs estynedig lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr, sy’n gyfwerth â 120 awr yn y dosbarth.

Bydd y Ganolfan Genedlaethol yn cydweithio gyda’i phartneriaid i gadw’r porth yn gyfredol gyda’r cyrsiau diweddaraf.

Dyma’r tro cyntaf i’r holl gyrsiau gael eu cyflwyno yn yr un lle, gyda chyfle hefyd i ddarpar-ddysgwyr ddefnyddio adnodd digidol newydd y ‘Dewin Dysgu.’  Mae’r Dewin yn gofyn cyfres o gwestiynau ac yn cyflwyno dewis o gyrsiau perthnasol.

Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, “Mae tyfu’r gweithlu sy’n gallu dysgu trwy’r Gymraeg yn allweddol i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Rydym ni am weld mwy o’r gweithlu presennol yn dysgu Cymraeg, felly dw i’n falch iawn o weld y porth yma’n cael ei gyflwyno.  

“Mae’n ateb y galw am wybodaeth glir a chynhwysfawr am yr ystod o hyfforddiant dysgu Cymraeg sydd ar gael, a bydd yn haws nag erioed i’r gweithlu addysg ddod o hyd i gwrs sy’n addas iddyn nhw.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Dyma’r tro cyntaf i ni ddod â’r holl wybodaeth am gyrsiau ar gyfer y gweithlu addysg, sy’n cael eu cynnal gan y Ganolfan Genedlaethol a’i phartneriaid, ynghyd yn yr un lle.  Ein gobaith yw y bydd mwy yn dysgu Cymraeg, ac yn mwynhau defnyddio’u Cymraeg wrth addysgu, yn sgil datblygiad y porth, sy’n ffenestr siop wych ar y ddarpariaeth eang sydd ar gael.”

Meddai Arwyn Thomas, Prif Weithredwr GwE a Noddwr Grŵp Arweinwyr Strategol y Gymraeg Rhanbarthol, “Mae’r sector addysg ledled Cymru yn croesawu’r datblygiad cyffrous yma, sy’n rhoi cyfle i bob ymarferydd ddatblygu’i sgiliau Cymraeg.  Mae ’na gynifer o opsiynau dysgu Cymraeg gwych i’r gweithlu addysg, a bydd y porth newydd yn eu rhoi ar ben ffordd, heb os.”