Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Croeso!

Os dych chi’n gweithio yn y sector addysg statudol yng Nghymru, mae dewis gwych o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael i chi.

Gwybodaeth

Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer y gweithlu addysg. 

Mae dewis o gyrsiau ar gael, gan gynnwys:

  • Cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer y gweithlu addysg.
  • Cyrsiau hunan-astudio ar-lein.
  • Cyrsiau Dysgu Cymraeg yn y gymuned, wyneb yn wyneb ac yn rhithiol.
Pwy sy'n gallu dilyn y cyrsiau?
  • Athrawon cymwys mewn swydd neu sy’n chwilio am swydd
  • Athrawon sydd newydd gymhwyso sy’n chwilio am swydd
  • Athrawon/cynorthwywyr cyflenwi
  • Unigolion sy’n hyfforddi i fod yn athro cymwys
  • Cynorthwywyr Dysgu sydd mewn cyflogaeth
  • Arweinyddion
  • Athrawon ymgynghorol
  • Staff nad ydynt yn dysgu

Os dych chi’n gweithio yn y maes Addysg Bellach ac Addysg Uwch, mae cynllun ar wahân sy’n cyllido cyrsiau dysgu Cymraeg ar gyfer y sector hwn.

Lefelau Dysgu Cymraeg

Mae cyrsiau ar gael ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol:

Mynediad: Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr, sy'n cyflwyno'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol.

Sylfaen: Mae'r lefel yma yn gofyn am rywfaint o brofiad o'r Gymraeg.  Bydd cyfleoedd i drafod pynciau pob dydd fel y teulu, ffrindiau, gwaith a diddordebau.

Canolradd: Mae’r lefel yma yn addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif batrymau’r Gymraeg.  Mae cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gyda mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando.  

Uwch: Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math.  Bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Meithrin siaradwyr hyderus yw’r prif nod.

Gloywi/Gwella: Mae'r lefel yma ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sy eisiau magu hyder i ddefnyddio eu sgiliau iaith.  Bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion y dosbarth.

Mae mwy o fanylion ar gael yn y Fframwaith cymwyseddau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg

Beth mae'n dysgwyr yn dweud

Anna Athrawes Uwchradd, Hydref 2022
For the first time ever I am feeling okay about actually trying to speak it! I am using more Welsh words and phrases in the classroom and encourage my students to do the same.
Perla Cynorthwyydd Dysgu, Hydref 2022
As a TA and working in a school environment it allows me to participate in the children’s Welsh learning journey.

Pa gwrs?

Os dych chi eisiau help i ddewis cwrs, defnyddiwch y Dewin Dysgu isod.  Os dych chi'n dewis cwrs cymunedol sydd â phris, byddwch yn derbyn côd disgownt gan y darparwr lleol er mwyn derbyn y cwrs am ddim.  

Dewin Dysgu
Cyn i chi ddechrau eich taith iaith gyffrous, beth am ateb rhai cwestiynau syml?

Chwilio am gwrs

cwrs ar gael
Dod o hyd i gwrs
Gweithlu Gofal Plant

Os dych chi'n ymarferwr Gofal Plant, mae cyrsiau wedi'u teilwra ar gael i chi yma

Gweithwyr Ieuenctid

Os dych chi'n Weithiwr Ieuenctid, mae cyrsiau wedi'u teilwra ar gael i chi yma.

Gweithlu Addysg Bellach ac Addysg Uwch

Os dych chi'n gweithio i sefydliad Addysg Bellach neu Addysg Uwch, mae cyrsiau wedi'u teilwra ar gael trwy gynllun Cymraeg Gwaith