Pwy ydy Philip Mac a’ Ghoill?
Dewch i ddysgu mwy am Philip Mac a’ Ghoill, Gwyddel sydd wedi dysgu Cymraeg mewn llai na blwyddyn ac sy’n dymuno cyflwyno cynllun fel ‘Siarad’ - sy’n dod a siaradwyr Cymraeg a dysgwyr gyda’i gilydd, yn Iwerddon.
O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir chi?
Dw i’n dod o Ard an Rátha, sef pentref bach yng ngogledd-orllewin Iwerddon. Ges i a fy chwiorydd ein magu ar fferm a Saesneg oedd iaith y cartref. Es i i Brifysgol Dulyn yn 2013 i astudio’r Wyddeleg, a chwblhau fy noethuriaeth yn y Wyddeleg y llynedd. Dw i nawr yn dysgu dosbarthiadau Gwyddeleg yn Nulyn ac ym Maigh Nuad.
Pam dych chi wedi penderfynu dysgu Cymraeg?
Nes i glywed y Gymraeg am y tro cyntaf mewn cynhadledd ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Caeredin yn 2019. Ar y pryd, roeddwn i’n gallu siarad Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban ond dim gair o Gymraeg. Ar ôl hynny, es i ati i ddysgu’r iaith gan ddefnyddio llyfrau ac apiau cyn penderfynu dilyn cwrs dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Ydi’r Gymraeg a’r Wyddeleg yn debyg?
Mae rhai geiriau Cymraeg a Gwyddeleg yn debyg iawn er enghraifft mawr/mór, bach/beag, trwm/trom, amser/aimsir yn ogystal â strwythur brawddegau o bryd i’w gilydd, er enghraifft Mae ffôn gydag Owen / Tá fón ag Owen. Mae’r tebygrwydd yma wedi helpu fi i ddysgu’r Gymraeg yn gynt.
Faint o Wyddeleg dych chi’n siarad bob dydd?
Dw i’n siarad Gwyddeleg gyda fy myfyrwyr a chydweithwyr yn y gwaith bob dydd. Ond dw i’n siarad Saesneg gyda fy nheulu a ffrindiau yn y fflat. Hoffwn i pe bawn i’n gallu defnyddio’r iaith yn amlach.
Beth dych chi’n ei fwynhau am ddysgu Cymraeg?
Mae darganfod pethau sy’n gyffredin rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg wedi bod yn ddiddorol iawn. Yn ystod y cyfnod clo, mae’r dosbarthiadau ar-lein wedi rhoi cyfle gwych i mi gyfarfod pobl a chymdeithasu yn y Gymraeg, hyd yn oed y tu allan i Gymru!
Dych chi’n cael cyfle i ddefnyddio eich Cymraeg y tu allan i’r dosbarth rhithiol?
Dw i wedi cofrestru ar y cynllun ‘Siarad’, sy’n dod a siaradwyr Cymraeg a dysgwyr gyda’i gilydd er mwyn cynyddu hyder y dysgwr. Dw i’n cwrdd â fy mhartner ar Zoom am awr bob wythnos, ac yn sgwrsio am bynciau o bob math. Dw i’n gobeithio gallu defnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith yn y dyfodol – boed hynny wrth ddysgu’r Gymraeg mewn dosbarthiadau yn Iwerddon neu ddysgu’r Wyddeleg mewn dosbarthiadau yng Nghymru - pwy â ŵyr?!
Beth yw eich hoff air Cymraeg?
Mae llawer o ymadroddion ac idiomau yn y Gymraeg sy’n wych! Mae idiomau fel “Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn” neu “Dw i wedi rhoi’r ffidil yn y to” yn gwneud yr iaith yn lliwgar iawn.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer y Gymraeg bob dydd, ac yn mwynhau’r broses o ddysgu’r iaith. Mae’n hawdd iawn anghofio iaith os na dych chi’n ei defnyddio hi’n ddigon aml.
Dych chi’n bwriadu parhau i ddysgu’r Gymraeg?
Dw i eisiau dilyn cwrs dwys yn y Gymraeg yn ogystal â dysgu mwy am hanes yr iaith. Pan fedra i, hoffwn fynd ar wyliau i Gymru er mwyn ymarfer fy Nghymraeg a’i chlywed yn cael ei defnyddio o’m cwmpas.
Dych chi’n gobeithio cyflwyno cynllun tebyg i ‘Siarad’ yn Iwerddon?
Hoffwn weld cynllun fel ‘Siarad’ yn cael ei gyflwyno yn Iwerddon. Dw i’n gweithio ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Dulyn a sefydliadau addysg uwch eraill i drio gwneud yr un peth fan hyn. Cainteach fydd enw’r cynllun (Siaradus yn y Gymraeg), a dw i’n gobeithio y bydd e’n gynllun cystal â ‘Siarad’ gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – cawn ni weld!
Llun: Philip Mac a’ Ghoill ar draeth An Fhearthainn yng ngogledd-orllewin Iwerddon.