Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyfle i bawb 'siarad'

Cyfle i bawb 'siarad'

Cefnogi dysgwyr trwy ‘siarad’ gyda’n gilydd

Bydd cyfle i ddysgwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru ymarfer yr iaith a magu hyder newydd wrth i gynllun o’r enw ‘Siarad’ gael ei gyflwyno’n genedlaethol gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Nod y cynllun gwirfoddol, sy’n paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr, yw codi hyder dysgwyr trwy roi cyfle iddynt sgwrsio yn anffurfiol gyda siaradwyr rhugl. 

Peilotwyd y cynllun mewn pedair ardal yn gynharach eleni, ac yn dilyn yr ymateb brwd a gafodd, bydd yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol o fis Medi ymlaen.

Bydd parau yn ymrwymo i gwrdd am o leiaf 10 awr i sgwrsio ac ymarfer.  Bydd y dysgwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hardaloedd. 

Mae’r cynllun ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu ar lefel Canolradd + y sector Dysgu Cymraeg.  Bydd yn cael ei weinyddu gan 10 o ddarparwyr y Ganolfan; mae pedwar Coleg Addysg Bellach yng Nghymru hefyd wedi ymrwymo i’r cynllun.

Meddai Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

“Mae gyda ni gyd gyfraniad i’w wneud i’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’r cynllun ‘Siarad’ yn ffordd wych o gefnogi dysgwyr ac agor y drws i brofiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n galonogol tu hwnt i glywed bod y cynllun eisoes wedi cynnig cyfle i gynifer o ddysgwyr a siaradwyr ddefnyddio a mwynhau’r iaith gyda’i gilydd mewn cyd-destun anffurfiol a chwbl naturiol.

“Rwy’n falch iawn bod modd i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ehangu’r cynllun o fis Medi er mwyn i ddysgwyr ar draws Cymru elwa o’r gefnogaeth.”

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae’r ymateb i’r cynllun peilot wedi bod yn wych. 

“Mae dysgwyr yn dweud eu bod nhw wedi dod i’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg wrth gymryd rhan yn y cynllun, a magu hyder i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.  Mae siaradwyr Cymraeg hefyd wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gefnogi unigolion sy’n dysgu – mae pawb wedi elwa.

“Mae creu cyfleoedd newydd a phrofiadau positif i ddysgwyr fwynhau’r Gymraeg yn rhan hollbwysig o waith y Ganolfan, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno’r cynllun hwn ledled Cymru.”

I gymryd rhan yn y cynllun – fel siaradwr neu ddysgwr Canolradd + - ebostiwch swyddfa@dysgucymraeg.cymru neu ewch i'r dudalen yma

Diwedd

Helen, Adam ac Alex
Efa - lansiad
Shwmae Caerdydd