Mae dysgwraig o Frunei, Asia sydd bellach yn byw yn Hwlffordd, Sir Benfro wedi lansio tudalen YouTube er mwyn ymarfer ei Chymraeg.
Mi wnaeth E’zzati Ariffin symud i Gymru yn 2013 er mwyn astudio gradd Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod ei chyfnod yno, mi wnaeth hi gyfarfod ei gŵr, Rhodri a phenderfynodd roi cynnig ar ddysgu’r iaith. Maent bellach yn byw yn Hwlffordd gyda’u mab 10-mis oed, Idris.
Ar y dudalen YouTube, mae E’zzati i’w gweld yn defnyddio’r Gymraeg wrth iddi ymweld â rhannau o Sir Benfro gyda’i theulu. Mae hi hefyd yn ymarfer yr iaith gyda’i gŵr a’i theulu yng nghyfraith ac yn mynychu sesiynau ‘Cicio’r Cof’, diwrnodau adolygu i ddysgwyr gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro.
Meddai E’zzati:
‘‘Mae dysgu iaith newydd bob amser yn sialens ond dw i’n caru’r iaith Gymraeg ac yn benderfynol o ddod yn rhugl rhyw ddiwrnod. Dw i’n trio siarad cymaint â dw i’n gallu a pheidio â phoeni gormod am ramadeg. Dw i hefyd yn ysgrifennu sut dw i’n teimlo mewn dyddiadur bob nos cyn mynd i gysgu.’’
Mae bod ynghanol eira yn brofiad anghyfarwydd i E’zzati ond mae’n ymddangos ei bod hi’n mwynhau’r eira mewn dau fideo ar ei thudalen YouTube:
‘‘Dw i’n hoffi’r tywydd yma yn y gwanwyn a’r haf ac wrth gwrs yn y gaeaf os ’dyn ni’n lwcus i gael eira! Mae Cymru yn wlad mor ddiddorol diolch i’r holl gestyll sydd i’w gweld a’r holl lwybrau cerdded gwych.’’
I ddod o hyd i gwrs Dysgu Cymraeg, neu gyfleoedd i ymarfer yr iaith, ewch i dysgucymraeg.cymru.
Er mwyn gweld fideos ychwanegol gan E'zzati, mae modd gweld ei thudalen YouTube yma.