Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgwraig yn defnyddio YouTube er mwyn ymarfer ei Chymraeg

Dysgwraig yn defnyddio YouTube er mwyn ymarfer ei Chymraeg

Mae dysgwraig o Frunei, Asia sydd bellach yn byw yn Hwlffordd, Sir Benfro wedi lansio tudalen YouTube er mwyn ymarfer ei Chymraeg.

Mi wnaeth E’zzati Ariffin symud i Gymru yn 2013 er mwyn astudio gradd Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Yn ystod ei chyfnod yno, mi wnaeth hi gyfarfod ei gŵr, Rhodri a phenderfynodd roi cynnig ar ddysgu’r iaith.  Maent bellach yn byw yn Hwlffordd gyda’u mab 10-mis oed, Idris.

Ar y dudalen YouTube, mae E’zzati i’w gweld yn defnyddio’r Gymraeg wrth iddi ymweld â rhannau o Sir Benfro gyda’i theulu.  Mae hi hefyd yn ymarfer yr iaith gyda’i gŵr a’i theulu yng nghyfraith ac yn mynychu sesiynau ‘Cicio’r Cof’, diwrnodau adolygu i ddysgwyr gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro.

Meddai E’zzati:

‘‘Mae dysgu iaith newydd bob amser yn sialens ond dw i’n caru’r iaith Gymraeg ac yn benderfynol o ddod yn rhugl rhyw ddiwrnod.  Dw i’n trio siarad cymaint â dw i’n gallu a pheidio â phoeni gormod am ramadeg.  Dw i hefyd yn ysgrifennu sut dw i’n teimlo mewn dyddiadur bob nos cyn mynd i gysgu.’’

Mae bod ynghanol eira yn brofiad anghyfarwydd i E’zzati ond mae’n ymddangos ei bod hi’n mwynhau’r eira mewn dau fideo ar ei thudalen YouTube:

‘‘Dw i’n hoffi’r tywydd yma yn y gwanwyn a’r haf ac wrth gwrs yn y gaeaf os ’dyn ni’n lwcus i gael eira!  Mae Cymru yn wlad mor ddiddorol diolch i’r holl gestyll sydd i’w gweld a’r holl lwybrau cerdded gwych.’’

I ddod o hyd i gwrs Dysgu Cymraeg, neu gyfleoedd i ymarfer yr iaith, ewch i dysgucymraeg.cymru.

Er mwyn gweld fideos ychwanegol gan E'zzati, mae modd gweld ei thudalen YouTube yma.