Mae dau aelod o’r un teulu, sy’n byw miloedd o filltiroedd ar wahân, wedi dod i gysylltiad yn ddiweddar diolch i ddosbarth dysgu Cymraeg.
Mae Kris Dobyns yn mynychu dosbarth Cymraeg ar Zoom o’i chartref yn Ontario, Canada, sy’n cael ei gynnal gan Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain – gaiff ei arwain gan Goleg Cambria a chwmni Popeth Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Tiwtor y dosbarth yw nai Kris, Owain Talfryn, sy’n byw yn Sweden.
Mi wnaeth Kris ac Owain gyfarfod ddiwethaf 16 mlynedd yn ôl, pan aeth Owain i weld ei nain yn Seattle, Washington gyda’i fam, Pegi Talfryn. Roedd Pegi wedi ymgartrefu yng Nghymru ar ôl dod yma i’r brifysgol yn 1975, gan gyfarfod ei gŵr a magu teulu.
Erbyn hyn, mae Pegi yn siarad yr iaith yn rhugl, ac mi wnaeth hyn ysbrydoli Kris i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ystod y pandemig. Gobaith Kris yw y bydd modd iddi deithio i Gymru rhyw ddydd, er mwyn gweld ei chwaer a’i theulu ac ymarfer ei Chymraeg.
Meddai Kris: ‘‘Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi gobaith i fi, gobaith y bydd modd i bawb deithio yn rhwydd unwaith yn rhagor, er mwyn i mi deithio i Gymru gyda fy ngŵr i weld fy chwaer a’i theulu. Dw i’n mawr obeithio y cai gyfle i siarad ag eraill yn y Gymraeg a mwynhau clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio. Mae’r gobaith yma yn fy sbarduno i barhau i ddysgu’r iaith.’’
Mae dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Kris, ac mae wedi mwynhau cael cwmni dysgwyr o bedwar ban byd yn y dosbarth, fel yr eglura:
‘‘Dw i’n mwynhau cyfarfod pobl sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg o wahanol wledydd. Dw i wedi cyfarfod dysgwyr o Ganada, Ffrainc, Lloegr, a Chymru, wrth gwrs. Mae Owain yn diwtor gwych, ac mae ei brofiad o ddysgu ieithoedd eraill fel Swedeg, Gaeleg ac Icelandeg, o fudd iddo adnabod yr heriau sy’n gallu codi wrth ddysgu iaith newydd.’’
Cafodd Owain ei fagu yn Y Rhyl ond symudodd ei deulu i Waunfawr, Gwynedd yn ystod ei arddegau. Mae wedi bod yn byw yn Uppsala, Sweden ers tair blynedd. Ieithoedd ydi un o brif ddiddordebau Owain, ac mae newydd raddio o Brifysgol Uppsala gyda gradd meistr mewn Saesneg.
Yn ôl Owain:
‘‘Dros y blynyddoedd, dw i wedi dysgu sawl iaith, felly dw i’n gallu uniaethu gyda’r rhai hynny sy’n teimlo’n nerfus wrth fynd ati i ddysgu iaith newydd sbon. Mae annog dysgwyr i ddal ati yn holl bwysig, yn ogystal â’u hatgoffa fod ganddynt y gallu i gyrraedd eu nod, dros amser. Mae gweld Anti Kris yn ymuno â’r dosbarth bob wythnos yn wych, a dw i’n gobeithio y cawn gyfarfod nôl yng Nghymru yn y dyfodol agos!’’
Llun: Kris gyda'i gŵr, Keith.