Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Teulu o Ganada a Sweden yn uno mewn gwers Gymraeg

Teulu o Ganada a Sweden yn uno mewn gwers Gymraeg
Kris a Keith

Mae dau aelod o’r un teulu, sy’n byw miloedd o filltiroedd ar wahân, wedi dod i gysylltiad yn ddiweddar diolch i ddosbarth dysgu Cymraeg.

Mae Kris Dobyns yn mynychu dosbarth Cymraeg ar Zoom o’i chartref yn Ontario, Canada, sy’n cael ei gynnal gan Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain – gaiff ei arwain gan Goleg Cambria a chwmni Popeth Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Tiwtor y dosbarth yw nai Kris, Owain Talfryn, sy’n byw yn Sweden.

Mi wnaeth Kris ac Owain gyfarfod ddiwethaf 16 mlynedd yn ôl, pan aeth Owain i weld ei nain yn Seattle, Washington gyda’i fam, Pegi Talfryn.  Roedd Pegi wedi ymgartrefu yng Nghymru ar ôl dod yma i’r brifysgol yn 1975, gan gyfarfod ei gŵr a magu teulu.

Erbyn hyn, mae Pegi yn siarad yr iaith yn rhugl, ac mi wnaeth hyn ysbrydoli Kris i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ystod y pandemig.  Gobaith Kris yw y bydd modd iddi deithio i Gymru rhyw ddydd, er mwyn gweld ei chwaer a’i theulu ac ymarfer ei Chymraeg.

Meddai Kris: ‘‘Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi gobaith i fi, gobaith y bydd modd i bawb deithio yn rhwydd unwaith yn rhagor, er mwyn i mi deithio i Gymru gyda fy ngŵr i weld fy chwaer a’i theulu.  Dw i’n mawr obeithio y cai gyfle i siarad ag eraill yn y Gymraeg a mwynhau clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio.  Mae’r gobaith yma yn fy sbarduno i barhau i ddysgu’r iaith.’’

Mae dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Kris, ac mae wedi mwynhau cael cwmni dysgwyr o bedwar ban byd yn y dosbarth, fel yr eglura:

‘‘Dw i’n mwynhau cyfarfod pobl sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg o wahanol wledydd.  Dw i wedi cyfarfod dysgwyr o Ganada, Ffrainc, Lloegr, a Chymru, wrth gwrs.  Mae Owain yn diwtor gwych, ac mae ei brofiad o ddysgu ieithoedd eraill fel Swedeg, Gaeleg ac Icelandeg, o fudd iddo adnabod yr heriau sy’n gallu codi wrth ddysgu iaith newydd.’’

Cafodd Owain ei fagu yn Y Rhyl ond symudodd ei deulu i Waunfawr, Gwynedd yn ystod ei arddegau.  Mae wedi bod yn byw yn Uppsala, Sweden ers tair blynedd.  Ieithoedd ydi un o brif ddiddordebau Owain, ac mae newydd raddio o Brifysgol Uppsala gyda gradd meistr mewn Saesneg.

Yn ôl Owain:

‘‘Dros y blynyddoedd, dw i wedi dysgu sawl iaith, felly dw i’n gallu uniaethu gyda’r rhai hynny sy’n teimlo’n nerfus wrth fynd ati i ddysgu iaith newydd sbon.  Mae annog dysgwyr i ddal ati yn holl bwysig, yn ogystal â’u hatgoffa fod ganddynt y gallu i gyrraedd eu nod, dros amser.  Mae gweld Anti Kris yn ymuno â’r dosbarth bob wythnos yn wych, a dw i’n gobeithio y cawn gyfarfod nôl yng Nghymru yn y dyfodol agos!’’

Llun: Kris gyda'i gŵr, Keith.