Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tiwtoriaid Yfory - Profiad Megan Jones-Evans

Tiwtoriaid Yfory - Profiad Megan Jones-Evans

Roedd yr iaith Gymraeg a diwylliant ar fy meddwl fwy nag erioed yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol yn Leeds, gan fy mod i wedi dewis ysgrifennu fy nhraethawd hir ar sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn profi adfywiad yr iaith.

Er mai Cymraeg yw fy mamiaith, doeddwn i erioed wedi gwneud mwy na gwisgo’r crys coch ar ddiwrnod rygbi, a chanu “Yma O Hyd” ag angerdd.

Ond o ymchwilio i hanes y Gymraeg, ac yn bwysicach, agweddau tuag ati, mi ddois i ddeall mor gyffrous a pherthnasol yw’r thema yma mewn gwleidyddiaeth ac yn y gymuned heddiw.

Felly, dechreuais chwilio am fwy o gyfleoedd i gael fy nhrochi yn yr iaith, ac mi ddois ar draws cwrs pythefnos gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno pobl ifanc i yrfa fel tiwtor Dysgu Cymraeg.

Mi fues i’n ffodus o gael lle ar y cwrs, ac all geiriau ddim cyfleu gymaint nes i fwynhau. O’r bore cyntaf, roeddwn i’n hollol sicr mai hwn oedd y dewis gorau i mi ei wneud ers blynyddoedd!

Grŵp gweddol fach o tua 15 oedden ni, y rhan fwyaf yn astudio yng Nghaerdydd neu ogledd Cymru, a chwpl fel fi o brifysgolion yn Lloegr.

Er i ni ddechrau’r cwrs fel dieithriaid, roedd y croeso a gawsom gan Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan, ac arweinydd y cwrs, wedi sicrhau ein bod yn teimlo fel hen ffrindiau erbyn diwedd y diwrnod cyntaf.

Yn wir, Helen oedd calon y cwrs, ac mae’r egni mae hi’n ei ddangos at bob agwedd o’r Gymraeg a thiwtora yn hollol ysbrydoledig.

Trwy gydol y pythefnos, mi gawsom ein cyflwyno i fyd Dysgu Cymraeg i oedolion – ac mi oedd y ?sesiynau wastad yn llawn asbri ac egni. Mi fuom yn chwarae gemau dysgu iaith ac yn cynllunio gwersi ein hunain i ddeall sut mae dysgu iaith i eraill. Byddaf yn cofio llais Helen yn canu “Eto! Eto!” am byth!

Ond nid yn unig dysgu sut i fod yn diwtor oedden ni. Rhan bwysig o’r cwrs oedd cael siaradwyr gwâdd i ddod i rannu eu profiadau gyda ni. Unigolion oedd yn gweithio mewn ystod eang o swyddi yn gysylltiedig â’r Gymraeg, o athrawon ysgol i weision sifil y Llywodraeth.

Doeddwn i erioed o’r blaen wedi deall yr holl ymdrech sy’n cael ei roi i gefnogi’r iaith ar hyn o bryd. Ymdrech sy’n ymwneud â mwy na dim ond dysgu Cymraeg i bobl.

Cawsom glywed am broject “Llais y Gymraeg” Llywodraeth Cymru a sut mae newid meddylfryd ac agweddau tuag at ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg yn hollbwysig. Pwysleisiodd y sesiynau yma bwysigrwydd rôl Tiwtoriaid Cymraeg fel mwy na drws i’r iaith, ond fel cynrychiolwyr diwylliant Cymraeg.

Yn ogystal â’r cwrs ei hun, rhan hanfodol arall oedd y bobl ifanc eraill ar y cwrs. Er nad oeddem yn adnabod ein gilydd ar y dechrau, roeddwn erbyn diwedd y cwrs yn teimlo mod i wedi gwneud ffrindiau cystal â’r rhai gwnes i yn ystod fy nhair blynedd yn y Brifysgol.

Dw i’n siŵr bod elfen o hynny i wneud gyda’r ffaith fod Tafwyl wedi cwympo ar benwythnos canol y cwrs. Felly cawsom y cyfle i dreulio amser gyda’n gilydd tu allan i’r cwrs, a gweld tystiolaeth glir o fyd y Gymraeg heddiw, a phwysigrwydd yr hyn roedden ni’n ei ddysgu.

Roedd yn bleser gallu byw yn Gymraeg, a theimlo bod byd y Gymraeg yn cynrychioli mwy na gwersi ysgol a sgwrsio gyda’r teulu (fel yr oedd hi i mi cyn hynny).  Trwy gael yr elfen gymdeithasol law-yn-llaw gyda’r cynnwys difyr ar y cwrs, llwyddwyd i greu profiad bythgofiadwy.

Rhaid i’r Gymraeg fod yn groesawgar i bawb, ac mae tiwtoriaid yn rhan hanfodol o sicrhau hyn. Dyma oedd neges bwysicaf y cwrs i mi ac mae wedi fy ysbrydoli i feddwl am ddilyn gyrfa yn y maes.