Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas

Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas

Roedd Elvet Thomas yn ddyn arbennig iawn. Fel athro yn Ysgol Cathays, ysbrydolodd  genedlaethau o ddisgyblion, y mwyafrif o gartrefi di-Gymraeg, i ddysgu’r iaith yn rhugl. Rhoddir y wobr hon er cof amdano a’i wraig i diwtor Cymraeg sydd yn neu wedi gwneud cyfraniad nodedig i faes Cymraeg i Oedolion.  Rhoddir y wobr gan Rhiannon Gregory.  Cyflwynir y Tlws ym mhabell y dysgwyr, Shw’mae Su’mae, Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, ddydd Sadwrn 3 Awst a gofynnir i’r enillydd fod yn bresennol. Mae'r ffurflen gais ar gael yma a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 1 Gorffennaf.