Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Yr ieithydd Seren a'i thaith yn dysgu Cymraeg

Yr ieithydd Seren a'i thaith yn dysgu Cymraeg

Yn wreiddiol o Borthcawl, roedd Seren Walters, 24 oed, yn teimlo bod rhywbeth ar goll yn ei bywyd nes iddi ddechrau dysgu Cymraeg.

Dechreuodd deimlo fel hyn pan aeth i Brifysgol Warwick i astudio am radd mewn Ffrangeg ac Almaeneg. Fe wnaeth byw yn Lloegr gryfhau ei chysylltiad â Chymru a gwneud iddi fyfyrio ac ystyried y diwylliant a’r iaith unigryw yr oedd wedi’u gadael ar ôl.

Meddai Seren, “Gan i mi astudio Ffrangeg ac Almaeneg yn y Brifysgol, ro’n i’n meddwl ei bod hi braidd yn wirion fy mod wedi byw mewn gwlad ar hyd fy oes ac yn methu â siarad iaith y wlad honno.

“Fe wnes i hefyd flwyddyn dramor yn yr Almaen a bu’n rhaid i mi wneud cyflwyniad am ddiwylliant i’r myfyrwyr Almaenig. Roedd gen i gywilydd cyn lleied ro’n i’n ei wybod am fy ngwlad, ac fe wnes i gymryd llawer mwy o ddiddordeb yn fy niwylliant a’m hanes ar ôl hynny.”

Pan ddychwelodd i Gymru i astudio ar gyfer ei gradd Meistr gyntaf a nawr ei gradd ymchwil PHD ym Mhrifysgol Abertawe, penderfynodd ei bod am ddysgu Cymraeg.

Meddai, “Wrth i mi ddysgu mwy am fy niwylliant a’m hanes, ro’n i’n teimlo bod rhywbeth ar goll – a sylweddolais mai methu siarad Cymraeg oedd hynny.

“Felly pan welais i hysbyseb ar gyfer cyrsiau Dysgu Cymraeg gyda chynnig gwersi am bris rhatach ar Facebook, penderfynais fynd amdani.”

Dechreuodd Seren wersi ym mis Medi 2021 gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Dw i wrth fy modd â’r ffordd maen nhw’n dysgu a dw i’n ymateb yn well i ddull mwy strwythuredig o ddysgu,” eglura.

“Ro’n i wedi dechrau dysgu cyn hynny gyda Duolingo, a dw i nawr yn mwynhau cael dosbarthiadau rheolaidd – mae’n dda i mi. Dw i newydd ddechrau ar gwrs lefel Mynediad, ac mae llawer o sylw yn cael ei roi ar ynganu - sy'n ddefnyddiol iawn.

“’Dyn ni hefyd yn mynd dros sgyrsiau posibl ac yn ymarfer fel dosbarth, ac mewn grwpiau llai, sy’n wych.

“Mae llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol ar gael a phan fydd gen i ychydig mwy o amser, un o’r digwyddiadau y byddwn i wir yn hoffi ei fynychu yw’r grŵp canu. Does gen i ddim llais da ond dw i'n meddwl y byddai'n braf.

“Dw i hefyd yn meddwl bod gwrando ar ganeuon yn help mawr – mae’r rhythm yn helpu’r brawddegau i aros yn eich meddwl. Mae’n llawer mwy o hwyl ac nid yw’n teimlo fel gwaith caled!”

Ym mis Medi 2022, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed.  

Ychwanegodd Seren, “Byswn i’n dweud wrth unrhyw berson ifanc sy’n ystyried dysgu Cymraeg i wneud e. Mae llawer o stwff allan yna y dyddiau yma ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n gwneud yr iaith yn fwy perthnasol i’ch bywyd chi, ac efallai petai hynny wedi bod o gwmpas pan ro’n i’n iau, byswn i wedi teimlo’n wahanol am yr iaith yn yr ysgol.

“Mae’n beth positif iawn gweld cynnwys Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – dw i wedi gweld comedi gwych ac wedi cael pop-up fideos Cymraeg ar fy ffrwd Facebook.

“Mae hyn oll yn gwneud i bobl ifanc sylweddoli bod y Gymraeg yn fyw ac yn berthnasol i ni ym mhob rhan o Gymru.”

Am fwy o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i dysgucymraeg.cymru.